Mae gyda ni nifer o raglenni cymorth cyflogaeth ar gael ledled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n cynnig cymorth a chyngor i bob trigolyn dros 16 mlwydd oed sy'n chwilio am waith, cyfleoedd i hyfforddi neu gyfleoedd i wirfoddoli. Mae modd i chi hefyd gael cymorth i wella'ch sgiliau pan fyddwch chi mewn swydd.
Mynediad i gymorth un wrth un er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol; boed hynny ar ffurf bod yn fwy heini, manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a hyfforddiant, ennill cymwysterau, gwirfoddoli neu ddod o hyd i swydd.
Cyfleoedd wedi'u hachredu a heb eu hachredu i ddysgu sgiliau newydd ac ychwanegu cymwysterau i'ch CV.
Hyfforddiant un wrth un ac arweiniad i’ch helpu i gyflawni eich potensial a bod mewn sefyllfa well i ddatblygu eich gyrfa.
Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith ynghyd â chysylltiadau uniongyrchol â chyfleoedd cyflogaeth cyfredol ym mhob sector.
Gwella'ch sgiliau digidol a'ch sgiliau sylfaenol yn cynnwys Saesneg a Mathemateg. Dechrau gwirfoddoli a gwella'ch hyder, eich lles corfforol a'ch lles meddyliol.
Cysylltu â ni:
I ofyn cwestiwn cyffredinol, cysylltwch â:
Rhaglenni wedi'u Hariannu gan Grantiau:
Mae ein gwasanaethau cymorth cyflogaeth yn cael eu cynnal gan ddefnyddio cyllid grant o Gynllun Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru a Rhaglen Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.