Enw: Dafydd Morgan
Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): 2019
Swydd Bresennol: Technegydd Peirianneg Sifil
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?
Es i i'r Brifysgol yng Nghasnewydd am flwyddyn ac fe wnes i ennill Tystysgrif Addysg Uwch (Addysgu Cynradd).
Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?
Mae diddordeb gyda fi mewn Perianneg beth bynnag ac rwy'n mwynhau darganfod y modd y mae pethau'n gweithio ac rwy'n hoff o gymryd ymagwedd ymarferol wrth ddatrys problemau.
Fe wnes i astudio Dylunio a Thechnoleg yn ystod fy astudiaethau TGAU a Safon Uwch, gan arbenigo yn Nylunio Cynnyrch. Fe wnaeth y profiad yma gadarnhau fy niddordeb mewn Peirianneg ymhellach, ac wrth astudio ar gyfer fy arholiadau Safon Uwch edrychais ar gyrsiau Peirianneg mewn nifer o wahanol Brifysgolion. O ymchwilio i ba bynciau oedd eu hangen ar gyfer y cyrsiau, darganfyddais y byddai angen graddau Mathemateg a Ffiseg i lefel Safon Uwch arna i. Yn anffodus, nid oedd gen i’r cymwysterau hyn. Felly, penderfynais ddilyn llwybr gyrfa gwahanol.
Ar ôl cwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol ar gwrs gwahanol, roeddwn i'n parhau i fod yn angerddol am Beirianneg. Es i Ffair Swyddi Rhondda Cynon Taf a chlywed am y brentisiaeth Peirianneg Sifil. Penderfynais wneud cais am y swydd, ac ar ôl y camau cyfweld, yn ffodus, cefais gynnig y rôl.
Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?
Ar hyn o bryd rydw i'n astudio ar gyfer cymhwyster Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (BTEC Lefel 3) yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n mynd i'r coleg am un diwrnod bob wythnos tra mod i'n gweithio. Mae'r cwrs wedi rhoi cyfle i fi gymhwyso gwybodaeth dechnegol newydd mae modd i mi ei defnyddio'n y gweithle.
Yn ogystal â fy addysg yn y coleg, mae RhCT wedi trefnu i fi dderbyn hyfforddiant ychwanegol yn rhan o'r swydd. Y cwrs hyfforddi ychwanegol cyntaf i fi ei fynychu yn RhCT oedd un lle wnes i ddysgu am system feddalwedd y diwydiant adeiladu sy'n amcangyfrif a chynllunio costau, paratoi biliau a gweinyddu cytundebau.
Rydw i hefyd wedi bod ar gwrs hyfforddi Ymwybyddiaeth Asbestos. Rhoddodd yr hyfforddiant ymwybyddiaeth i fi o beryglon asbestos, sut y gall edrych, y broses adrodd am unrhyw broblem a beth mae modd ei wneud i'w symud yn ddiogel, gan gynnwys pryd y mae'n well ei adael lle mae a pheidio ei symud o gwbl.
Roedd Peiriannydd profiadol yn fentor i fi fel prentis ac roedd hyn yn rhan hollbwysig o’m datblygiad i. Mae hyn wedi bod yn rhan amhrisiadwy o'r brentisiaeth a rhoddodd ysbrydoliaeth a hyder i fi ddilyn gyrfa yn y ddisgyblaeth Peirianneg Sifil.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Rydw i wedi mwynhau gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn fawr iawn. Mae fy mhrofiad o'r coleg a'r gwaith wedi caniatáu i fi ddatblygu sgiliau newydd fel cydweithio ag aelodau eraill o staff, rheoli amser, datrys problemau a meithrin perthnasoedd o safon fel rhan o fy ngwaith. Rwyf hefyd wedi mynychu nifer o ymweliadau safle wrth weithio ar wahanol brosiectau, ac wedi cael y profiad o gydweithio â nifer o Beirianwyr profiadol.
Argymhellion i Ymgeiswyr:
Mae Cyngor RhCT yn gyflogwr gwych! Mae'r ystod o rolau sydd ar gael yn caniatáu i chi ennill incwm wrth astudio, ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr, a chaffael profiadau eang wrth weithio. Mae nifer o fuddion yn cael eu cynnig, fel oriau hyblyg, 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â chynllun pensiwn da.
Mae Cyngor RhCT yn gofalu am ei weithwyr ac mae'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn darparu cefnogaeth ragorol i brentisiaid. Mae pawb yn gwneud eu gorau glas er mwyn sicrhau eich bod chi'n cyflawni eich nodau, boed hynny'n gymhwyster neu yrfa yn y sector o'ch dewis.