Enw: Rhys Mabey
Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): Medi 2019
Swydd Bresennol: Prentis RCT Source
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?
Roeddwn i ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Cyfrifiadura ar y Rhyngrwyd a Gweinyddu Systemau. Ar ôl gadael y brifysgol fe ges i gyfnod o wirfoddoli yn Too Good To Waste ac es i ar leoliad gwaith i'r ganolfan waith tra'r oeddwn i'n edrych am swydd lawn amser.
Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?
Roedd y cynnig o gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, wrth weithio tuag at gymhwyster Lefel 3 Dysgu a Datblygu yn gyfle rhy dda i'w golli. Roedd cael cyflog da a chael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau yn gwneud y cynllun yma'n un oedd yn apelio'n fawr i fi. Rwy'n nabod ychydig o bobl sy'n gweithio i'r Cyngor sy'n dweud "unwaith i chi ddechrau gweithio iddyn nhw, ei fod yn swydd am oes", felly roedd yn ymddangos yn gyfle hynod o gyffrous.
Pa gyfleoedd i ddatblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?
Pan ddechreuais i yn fy rôl i, roedd dysgu'r modd i ddefnyddio'r system yn her. Roedd mynd i’r afael â'r modd i reoli Gwefan RCT Source a chreu modiwlau ar-lein gan ddefnyddio Adap yn anodd i ddechrau ond roedd cefnogaeth yn cael ei chynnig i fi ar bob achlysur gan fy rheolwr llinell ac roedd digon o adnoddau ar gael i fi eu defnyddio. Wedi ychydig fisoedd tyfodd lefel fy nealltwriaeth a fy ngwybodaeth ac roeddwn i'n teimlo'n llawer mwy cyfforddus yn fy rôl. Cefais i'r amser i ddefnyddio nifer o'r elfennau oedd ar y wefan ac roedd hyn yn gymorth i fi wrth ddatblygu ymhellach. Ges i'r rhyddid i roi cynnig ar bethau a gweld beth oedd modd i mi ei gynhyrchu. Bellach mae gan fy rheolwr llinell gynllun ar fy nghyfer er mwyn fy nghynnwys mewn sesiynau hyfforddi TGCh i weithwyr eraill y Cyngor, ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o hyn. Mae fy sgiliau wedi datblygu yn sicr ac mae'r gwelliannau mwyaf gen i i'w cael ym maes Gwasanaethau i Gwsmeriaid wrth ateb y ffôn. Roedd fy hyder yn isel ond fe dyfodd hyn gydag amser ac erbyn hyn rwy'n teimlo'n hyderus iawn wrth ateb y ffôn. Mae yna ddigon o gyfleoedd ar gael i fi er mwyn fy nghynorthwyo i ddatblygu ymhellach. Rydw i hefyd wedi derbyn hyfforddiant sydd wedi rhoi’r sgiliau a'r cyngor gorau i fi weithredu gan reoli fy amser yn fwy effeithiol. Mae gan weithwyr y garfan rydw i'n gweithio ynddi flynyddoedd lawer o brofiad yn eu rolau ac maen nhw'n hapus i rannu eu gwybodaeth a'u profiadau gyda fi er mwyn fy nghynorthwyo i ddatblygu.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Hyd yn hyn fy uchafbwynt oedd creu system asesu prentisiaeth a fydd yn cael ei defnyddio i ymgeiswyr gael profion didoli lle bo hynny'n berthnasol. Rydw i hefyd wedi cynnal sesiynau gyda staff gweinyddol Gofal Cymdeithasol Cwm Taf i'w dysgu sut i greu cyrsiau a seminarau ar RCT Source. Yn ddiweddar, es i i achlysur yng Nghaerdydd o'r enw “Learning Pool Live” a ges i'r cyfle i gwrdd â gweithwyr sefydliadau eraill sydd â safle tebyg i RCT Source y Cyngor. Roedd yn wych gweld y modd y mae sefydliadau eraill yn mynd ati i greu eu modiwlau e-Ddysgu a'r ffyrdd maen nhw'n rhedeg eu gwefannau o ddydd i ddydd.
Argymhellion i Ymgeiswyr:
Mae'r Cyngor yn sefydliad gwych i weithio iddo ac mae llawer o fuddion o weithio iddo. Lle bo hynny'n berthnasol, efallai y byddwch chi'n gweithio oriau hyblyg, sy'n fonws arbennig.
Peidiwch â bod yn rhy nerfus. Bydd cefnogaeth yn cael ei roi i chi trwy gydol cyfnod eich prentisiaeth ac mae pawb o hyd yn barod i'ch helpu chi. Maen nhw eisiau ichi lwyddo a byddan nhw wrth law pryd bynnag y bydd angen help arnoch chi, boed gan weithwyr, boed yn aelod o garfan y Gwasanaethau Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant neu eich cydweithwyr chi.
Mae nifer o fuddion a manteision o ddysgu yn y gweithle. Mae'n gyfle i chi ennill profiad da a chymhwyster i gryfhau'ch siawns o sicrhau rôl barhaol - boed hynny gyda'r Cyngor neu sefydliad arall. Bydd yr holl brofiad o fudd mawr i chi.
Pan fydd cyfleoedd newydd yn codi yn eich maes gwasanaeth chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnig eich hun i helpu mewn unrhyw modd sy'n bosibl. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ennill profiadau newydd er mwyn i chi alluogi eich bod chi'n datblygu.
Pan fydd rolau prentisiaid yn codi gyda'r Cyngor, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen pob cwestiwn yn ofalus a chofiwch dim ddewisodd y cwestiynau yma!