Enw: Katie Ennis
Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): 2019
Swydd Bresennol: Prentis Gwasanaethau Cymunedol
Beth wnaethoch chi cyn dechrau'r brentisiaeth?
Roeddwn i'n cwblhau cwrs yn y Brifysgol ac yn gweithio’n llawn amser yn y maes manwerthu.
Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?
Fe wnes i ymgeisio am fy mod i eisiau gweithio i'r Awdurdod Lleol. Fe wnes i gais hefyd am rôl prentisiaeth wahanol ac er fy mod i ddim yn llwyddiannus y tro hwnnw, roedd cael cyfweliad yn brofiad gwych ac wedi fy mharatoi i erbyn i mi gael cynnig fy ail gyfweliad. Roeddwn i’n dda iawn yn y cyfweliad a chefais gynnig y swydd!
Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?
Gan fy mod i wrthi'n cwblhau fy NVQ Lefel 3, Busnes a Gweinyddiaeth rwy'n parhau i ddysgu bob wythnos, ac mae fy sgiliau TGCh yn ogystal â chyfathrebu wedi gwella cryn dipyn. Mae'r Awdurdod Lleol yn cynnig cymaint o gyfleoedd dysgu ar 'Source', er enghraifft, fel cefnogaeth weinyddol. Mae'n ofynnol i fi ysgrifennu cofnodion cyfarfodydd, rhywbeth doeddwn i ddim wedi ei wneud o'r blaen. Ar 'Source' mae cwrs ysgrifennu cofnodion yn rhad ac am ddim wnes i ei gwblhau a oedd yn ddefnyddiol ac yn fuddiol iawn i fy rôl i, yn fy marn i.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Yr uchafbwyntiau hyd yma yw fy natblygiad personol a phroffesiynol. Ar ddechrau fy mhrentisiaeth, roeddwn i'n teimlo bod gen i gymaint i'w ddysgu mewn cyn lleied o amser, ond roeddwn i'n hollol anghywir! Gyda chefnogaeth fy ngharfan a'r garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant, roeddwn i'n teimlo'n hynod gartrefol ac roedd modd i fi ddatblygu'r sgiliau priodol yn weddol gyflym.
Argymhellion i Ymgeiswyr:
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r enghreifftiau gorau ar gyfer eich cymwyseddau.
- Ceisiwch eich gorau yn ystod y cyfweliad asesu, yn ogystal â'r ail gyfweliad.
- Peidiwch â digalonni os dydych chi ddim yn cael y swydd! Mae modd i chi ymgeisio eto!