Enw: Reilly Morgan
Blwyddyn dechrau'r brentisiaeth: 2021
Swydd bresennol: Goruchwyliwr Safle dan Brentisiaeth
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?
Fe wnes i weithio mewn sawl lle a chwblhau tair blynedd yn y coleg.
Pam cyflwynoch chi gais am le ar y rhaglen brentisiaethau?
Roedd y rhaglen yn gyfle gwych ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi gwneud cais.
Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?
Rydw i wedi cael nifer o gyfleoedd i ddatblygu wrth weithio i Gyngor RhCT. Mae fy sgiliau arwain a sgiliau TGCh wedi gwella'n fawr ac rwy' wedi magu hyder.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Cwrdd â phobl newydd a chael cyfle i ddysgu am faes newydd.
Disgrifiwch eich prentisiaeth mewn 3 gair
Cyffrous – Heriol – Dysgu
Argymhellion i ymgeiswyr:
Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth i fanteisio ar y cyfle.