Enw: Henry Jones
Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): 2019
Swydd Bresennol: Prentis Gwasanaethau Arlwyo
Beth wnaethoch chi cyn dechrau'r brentisiaeth?
Fe wnes i weithio ym manc Barclays ym Mhontypridd ac yng Nghaerdydd yn rôl Banciwr Hanfodol. Roeddwn yn y rôl yma am 2 flynedd ac fe wnes i sylweddoli bryd hynny fy mod i eisiau newid fy ngyrfa yn gyfan gwbl.
Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?
Roeddwn i'n gwybod bod ffrindiau gyda fi a oedd eisioes wedi cwblhau Prentisiaeth â Chyngor RhCT, ac o glywed eu profiadau calonogol a sylwi bod swydd yn cael ei hysbysebu, roedd rhaid i fi wneud cais ar unwaith. Rwy'n gwybod bod y Cyngor yn sefydliad gwych i weithio iddo, hyd yn oed cyn dod yn gyflogai. Yr un flwyddyn wnes i gyflwyno fy nghais, cafodd llawer o Brentistiaethau eu hysbysebu hefyd. Roedd y Prentis Arlwyo yn rhywbeth wnaeth ddal fy llygad ac roeddwn yn siŵr bod hon yn yrfa berffaith i fi. Ar ôl darllen y disgrifiad swydd a'r hysbyseb, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n mwynhau'r swydd gan ei bod yn ymddangos yn un diddorol iawn. Fe wnes i ymgeisio am y swydd a chefais fy ngwahodd i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad fe wnaeth y Rheolwr esbonio'r rôl wrtha i a beth fyddai hanfodion y swydd. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig y swydd ac roeddwn i'n hynod o falch o dderbyn y cynnig.
Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?
Er mai dim ond ym mis Medi y llynedd wnes i ddechrau fy Mhrentisiaeth, rydw i eisioes wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddi sy'n cynnwys Addysg ac Hyfforddiant (Lefel 3), Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (Lefel 3) a Diogelwch Bwyd (Lefel 2). Rydw i hefyd yn gweithio tuag at Lefel 3 ar gwrs Busnes a Gweinyddiaeth. Yn y Cyngor mae gen i fynediad at Source, platfform ar lein sy'n fy ngalluogi i gwblhau nifer o fodiwlau hyfforddi.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Mae bob dydd yn uchafbwynt i fi! Gyda’n llaw ar fy nghalon, rwyf wrth fy modd â’m swydd yn ogystal â'm cyd-weithwyr. Mae'r Cyngor yn sefydliad gwych i weithio iddo ac rwy'n edrych ymlaen at ddod i'r gwaith bob dydd, gan fod bob un o'r dyddiau yna'n hollol wahanol.
Argymhellion i Ymgeiswyr:
Peidiwch â diystyru eich Prentisiaeth am eich bod yn ystyried y cyflog yn un wael. Wedi i chi orffen eich cyfnod yn Brentis, os ydych chi'n ddigon ffodus i gael swydd barhaol, mae'r rolau o fewn y Cyngor yn talu'n dda iawn. Yn dibynnu ar eich swydd, mae modd i chi weithio’n hyblyg ac mae hyn yn un o elfennau gorau'r swydd yn fy marn i.