Enw: Jessica Phibben
Blwyddyn dechrau'r brentisiaeth: 2021
Swydd bresennol: Cynorthwy-ydd Asedau (Parhaol, Llawn Amser)
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?
Roeddwn i newydd fod ar gyfnod mamolaeth ac roeddwn i'n ddi-waith oherwydd Covid-19.
Pam cyflwynoch chi gais am le ar y rhaglen brentisiaethau?
Mae eiddo wastad wedi bod o ddiddordeb i mi, felly fe wnes i fachu ar y cyfle i gyflwyno cais ar unwaith. Doedd fy ngwaith ddim yn brif flaenoriaeth i mi wedi i mi gael plant, ond cyn gynted ag y dechreuais i fy swydd yn y Cyngor, roeddwn i'n mwynhau gweithio eto. Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod i wedi llwyddo i ddatblygu o fewn Carfan Eiddo'r Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf.
Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?
Ym mis Ionawr 2021, dechreuais i gymhwyster Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes ochr yn ochr â'm swydd fel Cynorthwy-ydd Gwybodaeth am Eiddo yn rhan o adran Eiddo'r Cyngor. Ym mis Chwefror 2022, derbyniais i swydd barhaol Cynorthwy-ydd Asedau.
Byddaf i'n cwblhau fy asesiadau coleg yn y mis nesaf.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Aildanio fy mrwdfrydedd a'm hangerdd wedi i mi gael plant.
Disgrifiwch eich prentisiaeth mewn 3 gair
Trawiadol – Diddorol – Cyffrous
Argymhellion i ymgeiswyr:
Ewch amdani! Fyddwch chi ddim yn difaru!