Skip to main content

Cyhoeddi Buddsoddiad o £50,000 ar gyfer Plannu Coed yn RhCT

Mae buddsoddiad o £50,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer plannu coed ar draws Rhondda Cynon Taf yn rhan o'i ymrwymiad i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd ac i greu Cymru fwy gwydn yn rhan o'r ddeddf llesiant a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae coed yn hanfodol ac maen nhw'n cynhyrchu ocsigen sydd ei angen arnon ni i fyw. Coed yw'r planhigion mwyaf ar y blaned ac maen nhw'n storio carbon ac yn sefydlogi'r pridd. Maen nhw hefyd yn hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt. 

Diolch i’r buddsoddiad bydd dros 600 o goed bach, glasbrennau a gwrychoedd yn cael eu plannu yn yr wythnosau nesaf ar draws y Fwrdeistref Sirol – 200 yng Nghwm Rhondda, 200 yng Nghwm Cynon a 200 yn Nhaf-elái. Mae'r coed yma wedi'u dewis gan eu bod i gyd yn frodorol i'r ardal a'r dalaith leol.

Bydd y grwpiau o goed yn cael eu plannu mewn parciau a mannau agored sydd ddim yn ardaloedd bioamrywiaeth nac yn ardaloedd blodau gwyllt.

Gwnaeth COP26 yn 2021, i bobl STOPIO a MEDDWL am y Newid yn yr Hinsawdd ac mae Rhondda Cynon Taf wedi parhau i ddangos ei hymrwymiad drwy godi ymwybyddiaeth drwy ofyn i drigolion fod yn Hinsawdd Ystyriol yn RhCT. 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon ac mae'n gwneud cynnydd da. Cyhoeddwyd adroddiad diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, a amlygodd (yn seiliedig ar gyfrifo cywir ar y pryd) fod Cyngor RhCT wedi lleihau ei ôl troed carbon NET cyffredinol 29% yn 2020/21, o gymharu â data o 2019/20.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Chymunedau, a Chadeirydd y Grŵp Llywio ar faterion yr Hinsawdd:

“Fel Cyngor rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd ac i storio carbon drwy ddefnyddio dulliau naturiol, megis y rheiny sy'n ymwneud â choed, mawnogydd, glaswelltir corsiog a chynefinoedd naturiol eraill ledled y Fwrdeistref Sirol i wella ansawdd aer a lleihau effaith nwyon tŷ gwydr.

“Trwy waith swyddogion y Cyngor a phenderfyniadau'r Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd (CCSG), rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i ni wneud gwahaniaeth yn lleol, ac yn fyd-eang. Bydd pob newid syml rydyn ni i gyd yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ein cynllun i ddod yn Gyngor ac yn Fwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth ac Is-Gadeirydd y Grŵp Llywio ar faterion yr Hinsawdd:

“Rydw i'n falch iawn o’n gweld ni’n symud ymlaen ac yn parhau i wneud gwahaniaeth fel Bwrdeistref Sirol. Mae modd i ni i gyd wneud gwahaniaeth ar y cyd trwy stopio a meddwl am y pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i atal y Newid yn yr Hinsawdd – trwy gau'r tap wrth frwsio ein dannedd, i ailgylchu cymaint â phosibl, i gerdded mwy. Mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan. Rydyn ni'n ffodus bod gyda ni fannau agored anhygoel yn RhCT a rhaid inni eu meithrin a gofalu amdanyn nhw. Bydd y dyraniad cyllid diweddaraf yn gwella ein mannau agored ac yn rhoi bywyd i’r cymunedau o’u cwmpas.”

Mae’r buddsoddiad diweddaraf yn ychwanegol at y coed a blannwyd yn rhan o Bartneriaeth Natur Leol RhCT a sicrhaodd fuddsoddiad o dros £232,000 i gynnwys y gwaith a ganlyn:

  • Gwella natur ar o leiaf 70 hectar o ddolydd blodau gwyllt, gwlyptiroedd, mannau agored ac ymylon gwair gan gynnwys 10 hectar o laswelltiroedd, sy'n fach ar y cyfan, glaswelltiroedd trefol neu rai wrth y ffordd sy'n fwy anodd eu cyrraedd gyda pheiriannau traddodiadol.
  • Plannu 350 o goed.
  • Rheoli 120 hectar o laswelltir â blodau gwyllt.
  • Ystafelloedd Dosbarth â Tho Gwyrdd; cynnal 8 ystafell ddosbarth â tho gwyrdd ar safleoedd ysgolion sydd heb fawr o natur neu sydd heb fynediad o gwbl ati.
  • Gadael i Natur Dyfu; Man tyfu cymunedol ym Mharc Coffa Ynysangharad a pheiriant torri a chasglu i ehangu prosiect y llynedd.

Mae'r Gronfa yma wedi chwarae rhan fawr wrth alluogi RhCT i gyflawni ei pholisi rheoli glaswelltir er lles blodau gwyllt. Hefyd prynwyd a phlannwyd dros 300 o goed, ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn parciau, mynwentydd a meysydd hamdden yn 2020.

Am ragor o wybodaeth am y Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/Campaigns/ClimateChangeRCT/ClimateChangeRCT.aspx

Wedi ei bostio ar 03/03/22