Skip to main content

Gwybodaeth am Wahardd o'r Ysgol

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyngor a gwybodaeth i rieni, plant a phobl ifanc ar bob agwedd ar waharddiadau o'r ysgol.

Gwahardd yw'r opsiwn mwyaf eithafol sydd ar gael i bennaeth wrth ymateb i ymddygiad annerbyniol gan ddisgyblion. Mae'n golygu bod disgybl yn cael ei gadw i ffwrdd o'r ysgol am gyfnod penodol neu'n barhaol.

Dim ond y canlynol sydd â hawl i wahardd disgybl o'r ysgol:

  • Pennaeth ysgol sy'n cael ei chynnal
  • Yr athro/athrawes sydd â gofal dros uned atgyfeirio disgyblion
  • Person sy'n gweithredu yn un o'r swyddogaethau uchod.

Nid yw gwahardd yn addas ar gyfer mân dorri rheolau ysgol, megis:

  • methu cwblhau gwaith cartref
  • bod yn hwyr neu'n absennol
  • torri rheolau gwisg ysgol.

Yn ychwanegol at hyn, nid yw plentyn yn gallu cael ei wahardd oherwydd perfformiad academaidd gwael.

Gwaharddiad Cyfnod Sefydlog

Mae plentyn yn gallu cael ei wahardd am un neu fwy o gyfnodau penodol (hyd at uchafswm o 45 diwrnod ysgol mewn un flwyddyn academaidd), neu'n barhaol (mae'r plentyn yn cael ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol).

Does dim rhaid i waharddiad cyfnod penodol fod yn gyfnod parhaus. Mae hyn yn gallu bod yn berthnasol os yw'r plentyn yn mynychu darpariaeth oddi ar y safle am ran o'r wythnos, neu lle mae plentyn wedi'i wahardd am amser cinio yn unig. Mewn achosion eithriadol, fel arfer ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg, gall gwaharddiad cyfnod penodol gael ei ymestyn neu ei droi'n waharddiad parhaol.

Pryd a pham y gall pennaeth wahardd disgybl?

Gall penderfyniad y pennaeth i wahardd disgybl fod ar gyfer:

  • torri rheolau polisi ymddygiad yr ysgol yn barhaus, pan fo strategaethau neu sancsiynau eraill wedi'u dileu neu eu hystyried yn amhriodol o dan yr amgylchiadau
  • un digwyddiad mwy difrifol. 

Mae ysgolion yn amrywio yn y mathau o ymddygiad y maen nhw'n teimlo sy'n cyfiawnhau gwaharddiad. Fodd bynnag, yn gyffredinol, bydd digwyddiadau yn perthyn i un o'r categorïau canlynol:

  • ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl
  • ymosodiad corfforol yn erbyn oedolyn
  • cam-drin disgybl ar lafar/ymddwyn yn fygythiol
  • cam-drin oedolyn ar lafar/ymddwyn yn fygythiol
  • bwlio
  • cam-drin ar sail hil
  • camymddwyn rhywiol
  • mater sy'n ymwneud â chyffuriau ac alcohol
  • difrod
  • lladrata
  • ymddygiad aflonyddgar parhaus

Gall ymddygiad disgyblion y tu allan i'r ysgol fod yn rheswm dros eu gwahardd.

Mae'n ofynnol i ysgolion yn ôl y gyfraith gael polisi ymddygiad. Efallai y bydd rhieni, a allai fod yn amheus ynghylch penderfyniad i wahardd eu plentyn, yn credu y byddai'n ddefnyddiol gwirio bod yr ysgol yn cymhwyso ei pholisi ymddygiad ei hun.

Os yw'ch plentyn wedi cael ei wahardd, rhaid i'r pennaeth ddweud wrthych chi ar unwaith. Mae rhaid iddo wneud hyn ar y ffôn, ac anfon llythyr ar yr un diwrnod ag y maen ffonio.

Gwaharddiad Parhaol.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall plentyn neu berson ifanc gael ei wahardd o'r ysgol yn barhaol.

Cyn penderfynu a ddylid gwahardd unrhyw ddisgybl, dylai'r pennaeth;

  • sicrhau bod ymchwiliad addas wedi cael ei gynnal
  • ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gymryd i ystyriaeth bolisïau ymddygiad a chyfle cyfartal yr ysgol ac, os yw'n berthnasol, Deddf Cydraddoldeb 2010
  • siarad â'r disgybl i glywed ei fersiwn o'r digwyddiad
  • ystyried a allai'r disgybl fod wedi cael ei bryfocio e.e. drwy fwlio  neu drwy aflonyddwch rhywiol neu hiliol
  • ymgynghori ag eraill pan fo angen, ac eithrio unrhyw un a allai fod ynghlwm wrth y broses o adolygu penderfyniad y pennaeth yn nes ymlaen e.e. aelod o'r pwyllgor disgyblu

Nid yw  pennaeth yn gallu gwahardd plentyn nes ei fod wedi cymryd y camau uchod, ac mae'n fodlon bod y disgybl wedi gwneud beth y mae wedi cael ei gyhuddo o wneud.

Os bydd y pennaeth yn penderfynu gwahardd plentyn yn barhaol mae rhaid i bwyllgor disgyblu corff llywodraethu'r ysgol gyfarfod i ystyried y gwaharddiad.

Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i wneud eu gorau i sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol angenrheidiol yn cael ei gwneud ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, ni ddylai ysgolion wahardd disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn barhaol, p'un a oes gyda nhw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ai peidio.

Os yw'n debygol y bydd disgybl ag anghenion addysgol arbennig mewn perygl o gael ei eithrio, dylai'r ysgol archwilio'r gefnogaeth sydd ar waith a gwneud popeth posibl i gadw'r disgybl yn yr ysgol, megis:

  • ceisio cyngor gan yr awdurdod lleol a chyngor a chymorth proffesiynol eraill
  • trefnu adolygiad blynyddol cynnar os oes gan y plentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Proses ar gyfer gwahardd plant a phobl ifainc

Pan fydd pennaeth yn gwahardd disgybl, rhaid hysbysu rhieni trwy lythyr o fewn un diwrnod ysgol. Rhaid i'r ysgol hefyd hysbysu'r corff llywodraethu a'r awdurdod lleol o fewn un diwrnod ysgol o'r gwaharddiad. Dylai'r llythyr a gewch ddatgan bod y gwaharddiad yn sefydlog neu'n barhaol a dylai gynnwys gwybodaeth benodol, megis:

  • y dyddiad y bydd y gwaharddiad yn dod i rym ac unrhyw hanes blaenorol perthnasol
  • y rhesymau am y gwaharddiad
  • y trefniadau sydd wedi'u gwneud er mwyn i addysg eich plentyn barhau
  • y dyddiad olaf y gall pwyllgor disgyblu’r  corff llywodraethu gyfarfod i ystyried y gwaharddiad (dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol o'r dyddiad pan gafodd y      corff llywodraethu ei hysbysu am y gwaharddiad)
  • esboniad bod gennych chi'r hawl i weld/cael copi o gofnod ysgol eich lentyn ar gais ysgrifenedig, a'r hawl i ddatgan eich achos yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu, neu drwy fynychu'r cyfarfod lle bydd y gwaharddiad yn cael ei ystyried

Darparu addysg yn ystod cyfnod y gwaharddiadau

Dylid gwneud trefniadau i'ch plentyn barhau a'i addysg, gan gynnwys gosod a marcio gwaith ysgol. Mae canllawiau'r Llywodraeth (Llywodraeth Cymru) yn nodi bod yr ysgol a'r awdurdod lleol 'fel arfer' yn 'gyfrifol' am sicrhau bod addysg amser llawn a phriodol yn cael ei darparu o'r unfed diwrnod ar bymtheg o waharddiad sy'n hwy na 15 diwrnod. Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant/cynhaliwr yw sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei anfon adref yn cael ei gwblhau a'i ddychwelyd i'r ysgol.

Gwaharddiad anffurfiol

Mae rhai ysgolion yn gofyn i rieni fynd â disgybl adref neu i gadw'r disgybl gartref heb eu gwahardd yn swyddogol. Efallai y bydd  rhieni o’r  argraff bod yr ysgol yn ymddwyn yn dosturiol trwy beidio ag ychwanegu gwaharddiad i gofnod ysgol y disgybl. Serch hynny, mae'r arfer yma'n gallu arwain at ddisgyblion yn colli allan ar eu haddysg a'u rhieni'n colli'r hawl i wneud sylwadau ysgrifenedig i'r llywodraethwyr neu i wneud sylwadau'n bersonol mewn cyfarfod i ystyried y penderfyniad.

Mae gwaharddiadau 'anffurfiol' neu 'answyddogol', megis anfon disgyblion gartref 'i ymbwyllo', yn anghyfreithlon, hyd yn oed os yw'r rhieni wedi cytuno iddyn nhw. Rhaid cofnodi unrhyw waharddiad o ddisgybl, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn ffurfiol a dilyn y weithdrefn gywir. Mae gwaharddiad am gyfnod amhenodol hefyd yn anghyfreithlon.

Dyma rai cwestiynau sydd wedi cael eu hawgrymu y gallech ofyn i bennaeth yr ysgol, pan fo'ch plentyn wedi'i wahardd:

1. Beth yw'r cyhuddiad yn erbyn fy mhlentyn?


2. Beth yw'r dystiolaeth rydych chi wedi'i chael sy'n cefnogi'r honiad hwn?


3. Pa reol ym mholisi ymddygiad yr ysgol sydd wedi'i thorri?


4. Pwy wnaeth y penderfyniad yma i wahardd fy mhlentyn?


5. Beth mae fy mhlentyn yn ei ddeall fel yr hyn sydd wedi digwydd? A oes unrhyw beth y mae angen i mi ei esbonio iddo?


6. A allwch chi roi copi o gofnod addysgol fy mhlentyn i mi?


7. Ydych chi'n gallu rhoi manylion i mi am yr addysg sydd i fod i gael ei darparu ar gyfer fy mhlentyn yn ystod y cyfnod nad yw yn yr ysgol?


8. Pryd fydd Cyfarfod y Corff Llywodraethol yn digwydd?


9. Rydw i'n deall, fel y mae'n dweud yn y canllawiau, gallwn i ddod â fy mhlentyn i'r cyfarfod yma, er mwyn iddo roi ei safbwynt?


10. Rydw i'n deall, fel y mae'n dweud yn y canllawiau, y gallwn i a fy mhlentyn baratoi datganiad ar gyfer y cyfarfod?


11. Oes unrhyw un sy'n gallu rhoi cymorth i mi a fy mhlentyn?