Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu o safon yn eich cymuned leol.

Mae ein cyrsiau yn cynnig cyfleoedd i wella eich iechyd a lles, uwchsgilio neu ennill sgiliau newydd mewn llawer o gategorïau, gan gynnwys Cyfrifiaduron ac Ieithoedd, i ddatblygu hobi, er enghraifft Hanes Lleol, Ysgrifennu Creadigol, Celf Blodau neu Grefft Siwgr, a chyfle bob amser i wneud ffrindiau newydd.

Eleni byddwn yn cynnal diwrnod Cofrestru ar Medi'r 1af lle bydd cofrestru'n dechrau am 1pm. Byddwch yn gallu cofrestru dros y ffôn, ar-lein neu yn bersonol yn Yr Olwg, bydd mwy o fanylion ar gael yn fuan.

Cyhoeddir amserlen newydd cyrsiau mis Medi yn fuan.

Adult-Community-Learning-Logo
Files
Cyrsiau

Mae dysgu yn broses gydol oes, cofrestrwch heddiw...

Map

Lleoliadau

Caiff cyrsiau eu cynnal mewn llawer o leoliadau gwahanol ledled Rhondda Cynon Taf.

Newsletter

Achlysuron a Newyddion

Bwriwch olwg ar yr hyn sy'n digwydd yn rhan o'r gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Meeting-2

Amdanon ni

Cwrdd â'r garfan \ Polisïau \ Cysylltwch â ni.

 

Blwyddyn Newydd Dda 2026

Blwyddyn Newydd Dda - Wrth i'n cyrsiau ailgychwyn ar ôl y gwyliau, rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl.Dyma flwyddyn arall o ddysgu pethau newydd, cwrdd â ffrindiau, hen a newydd, a mwynhau cwmni ein gilydd.

Ffair Grefftau Nadolig

Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn Ffair Grefftau'r Nadolig yn Yr Olwg yfory ddydd Sadwrn 06/12/2025.Bydd llawer i'w weld a'i wneud, gan gynnwys perfformiadau yn y Theatr, stondinau crefft, stondinau bwyd a diod a gweithgareddau.

Morfedd Owen Samba Band

Gŵyl Morfydd OwenAr ddydd Gwener 10fed o Hydref cymerodd rhai o'n dysgwyr ran mewn band samba a gorymdeithio i lawr stryd Taf i lansio gŵyl Morfydd Owen. Da iawn bawb a gymerodd ran.

Newyddion cyffrous!

Newyddion cyffrous! Mae ein llyfryn cyrsiau diweddaraf ar ei ffordd i lyfrgelloedd ac adeiladau RhCT – cofiwch gasglu copi!Bydd modd cadw lle o ddydd Llun 1 Med.

Newyddion cyffrous!

Newyddion cyffrous! Mae ein llyfryn cyrsiau diweddaraf ar ei ffordd i lyfrgelloedd ac adeiladau RhCT – cofiwch gasglu copi!Bydd modd cadw lle o ddydd Llun 1 Medi.

Rhyddhau Llyfryn yn yr Arfaeth Medi 2025

Bydd ein llyfryn yn cael ei ryddhau'n fuan.Bydd yn cynnwys disgrifiadau o'r holl gyrsiau a fydd ar gael. Nodwch y bydd dyddiadau, lleoliadau ac amseroedd yn cael eu cyhoeddi ar wahân ar ein tudalen Cyrsiau unwaith iddyn cadarnhau.

The Big Green Week

The Learning Steps class celebrated The Big Green Week in Canolfan Calon Taf.

Anrhydeddu Diwrnod VE.

Gwnaed yr arddangosfa hardd hon gan Trevor Plenty, sydd yn mynychu dosbarth 'Hanes teulu' - Rhag i ni Anghofio.

Chris Lloyd Retirement

Dyma ddymuno ymddeoliad llawn chwerthin, heulwen ac ymlacio i'n ffrind a chydweithiwr da – diolch Chris.

Croeso yn ôl i dymor yr haf.

Croeso yn ôl i dymor yr haf. Braf iawn oedd gwyliau'r Pasg, yn enwedig gyda'r tywydd braf dros y diwrnodau diwethaf. Dros gyfnod y Pasg roedd ein dosbarth Camau Dysgu wedi mwynhau Garddio. Roedden nhw hefyd wedi mwynhau helfa'r Pasg.