Mae Lido Ponty yn unigryw yng Nghymru. Yr atyniad hanesyddol i'r teulu yw prif bwll awyr agored a pharc chwarae antur Cymru.
Mae Lido Ponty, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, wedi'i adnewyddu a'i foderneiddio ar gyfer ymwelwyr yr 21ain ganrif. Mae ganddo dri phwll nofio wedi'u gwresogi, sy'n cynnig cyfleoedd arbennig i deuluoedd, nofwyr ymroddedig a nofwyr hamddenol o bob oed a gallu.
Mae Lido Ponty yn cynnwys cawodydd dan do ac awyr agored, cyfleusterau nofio wedi'u gwresogi a Chanolfan i Ymwelwyr o'r radd flaenaf, sy'n adrodd hanes arbennig Lido Cenedlaethol Cymru. Ymhlith y nodweddion sydd wedi'u hadnewyddu y mae giatiau tro a chuddyglau'r 1920au sy'n cydfynd â'r Waterside Café newydd.
Mae'r ardal chwarae antur newydd, Chwarae'r Lido, yn dal dychymyg ein hymwelwyr ifainc wrth iddyn nhw chwarae ar siglenni, sleidiau a thwneli'r parc yma sy'n dathlu ein gorffennol diwydiannol.
Mae Lido Ponty wedi'i ddatblygu yn sgil prosiect adnewyddu gwerth £6.3 miliwn Cyngor Rhondda Cynon Taf, a diolch i gefnogaeth ariannol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw.
I goroni'ch taith i Lido Ponty, ewch i'n Canolfan i Ymwelwyr, sy'n cynnwys byrddau treftadaeth, gemau a phosau rhyngweithiol, a sgriniau fideo mawr.
Gweld datganiad hygyrchedd lleoliad yr oyour
TREFTADAETH Y LIDO
Cafodd ei adeiladu yn 1927 mewn dull oedd yn nodweddiadol o'r cyfnod, gan gyflwyno naws Fediteranaidd gref i Gymoedd y De.
DOD O HYD I NI
Mae'r atyniad anhygoel i'r teulu yn unigryw yng Nghymru. Lido Ponty yw prif bwll awyr agored a pharc chwarae antur Cymru.