Skip to main content
 

PARTÏON AC ACHLYSURON

Edrych am le arbennig i ddathlu? Beth am Lido Ponty?

Lido Ponty yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer partïon pen-blwydd, priodasau ac achlysuron arbennig eraill. Mae'r ystafell achlysuron ar y llawr cyntaf ac yno, fe welwch olygfeydd godidog o Lido Ponty a Pharc Coffa Ynysangharad.

PARTÏON PLANT

Eisiau diwrnod bythgofiadwy i'ch plant? Beth am drefnu'u parti yn un o leoliadau mwyaf arbennig De Cymru? Mae'r ystafell uwchben Lido Ponty ac ar gael i'w llogi'n breifat i ddathlu'r achlysur arbennig hwnnw.

Ystafell i'w llogi

Chwilio am rywle unigryw i gynnal cyfarfodydd neu achlysuron eraill? Mae modd i ni gynnig ystafell sydd i ffwrdd o sŵn ffonau a’r pethau eraill pob dydd sy’n mynnu tylw sylw. Ffoniwch 0300 004 0000 neu e-bostio lidoponty@rctcbc.gov.uk am brisiau a rhagor o wybodaeth.

TREFNU PARTI NEU ACHLYSUR NEU GADW YSTAFELL
 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo