Ni fyddai unrhyw daith i Lido Ponty yn gyflawn heb ymweliad i'r Ganolfan i Ymwelwyr ryngweithiol.
Gall ymwelwyr ddod o hyd i'r Ganolfan i Ymwelwyr ar y llawr cyntaf, uwchben y Caffi Glan-y-dŵr, a gallant weld hanes llawn y Lido - o'r agoriad swyddogol ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ym 1927, hyd heddiw.
Mwynhewch y casgliad godidog o luniau, fideos ac eitemau cofiadwy, wrth i chi gamu yn ôl i'r 1920au ac i gyfnod y 'twf lidos' anghredadwy ledled y wlad.
Cymerwch daith yn ôl drwy amser, saith degawd mewn gwirionedd, i ddilyn hanes yr hyn oedd yr ail bwll nofio awyr agored fwyaf yn Ne Cymru. Dim ond y Cold Knap yn Y Barri, sydd bellach wedi cau, oedd yn fwy.
Ydych chi'n barod am her? Cymerwch ran yng nghwis Lido Ponty ar y Bwrdd Gemau gwbl ryngweithiol.
Gallwch hefyd ddysgu am gyfnod trist o ddirywiad y lido yn ystod y 1990au a'i drawsnewidiad anhygoel yn yr 21ain Ganrif i Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru. Ail-agorodd y Lido yn swyddogol ar Ddydd Llun, Awst 24, 2015, ar ôl prosiect adnewyddu ac adfywio enfawr a gostiodd 6.3m.
Mae'n stori o lwyddiant anhygoel. Croesawodd bron i 25,000 o ymwelwyr yn ystod y 10 wythnos gyntaf ar ôl yr agoriad, gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o'r wlad.
Lido Ponty yw atyniad dŵr awyr agored anhygoel newydd y Cyngor i'r holl deulu.
Mae Canolfan i Ymwelwyr Lido Ponty yn gwbl hygyrch i bobl anabl, gyda lifft o'r llawr gwaelod. Mae hefyd yn cynnig golygfeydd panoramig syfrdanol o Barc Coffa Ynysangharad a Lido Ponty.
Yr oriau agor yw 9am i 5pm.