Skip to main content
 

DYSGU

 

DYSGU

Rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleoedd addysgol yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty sydd yn cynorthwyo staff addysgu i ddarparu cwricwlwm ystyrlon, perthnasol ac ysgogol ar gyfer dysgwyr. Gallwch chi lawrlwytho adnoddau i athrawon o'r dudalen hon am ddim.

Noder: Bydd pob gweithgaredd dysgu yn para am tua 90 munud

HANES Y Glo

Teithiwch yn ôl mewn amser a byddwch yn darganfod pwysigrwydd glo i ddatblygiad Pontypridd.  Darganfyddwch effaith mwyngloddio ar yr amgylchedd a dysgwch sut mae pobl yn adeiladu cyfleusterau hamdden i fwynhau eu hamser hamdden mewn mannau glân, iach.

Bydd modd i blant:

  • Nodi eu lleoliad ar fap a chynllunio llwybr o Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, trwy Barc Coffa Ynysangharad.
  • Dysgu am hanes a threftadaeth y safle, a'i gysylltiadau â hanes a diwylliant Cymru.
  • Deall tarddiad glo a'i ddefnyddiau, a chysylltu'r rhain â themâu cyfoes fel llygredd a byw'n iach.

Cysylltiadau Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Hanes, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth.

Gwaith dŵr

Darganfyddwch hanes unigryw Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, sut y cafodd ei adeiladu, a'r bobl enwog sydd wedi ymweld â’r lle yn y gorffennol. Dysgwch am Jenny James yn nofio ar draws Môr Hafren a'r Sianel a sut y defnyddiodd Lido Ponty i hyfforddi ar gyfer ei rasys.

Bydd modd i blant:

  • Cyfrifo faint o ddŵr a gafodd ei ddefnyddio i lenwi'r Lido.
  • Amcangyfrif sawl hyd gyfatebol o'r Lido wnaeth Jenny James eu nofio ar ei rasys traws-sianel.
  • Nodi nodweddion hanesyddol Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, a'u cysylltu â'r adeilad fel y mae heddiw.

Cysylltiadau Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Gwyddoniaeth, Hanes.

Boncyffion Coed

Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi'i leoli ym Mharc Coffa Ynysangharad ac mae wedi'i amgylchynu gan y byd naturiol. Darganfyddwch y bwystfilod bach, yr adar a'r ystlumod sy'n byw yn y parc wrth i chi gerdded o gwmpas. Archwiliwch y gwahanol greaduriaid rydych yn eu darganfod ac archwiliwch eu hamgylchedd. Mae hyn yn gyfle gwych i chi ddod â'ch camera! Cymerwch ysbrydoliaeth o'r amgylchedd naturiol i wneud gwaith celf gan ddefnyddio dail, cerrig a brigau.

Bydd modd i blant:

  • Cyfrifo uchder ac oedran coed.
  • Dylunio a gwneud gwaith celf gan ddefnyddio adnoddau naturiol.
  • Adnabod bwystfilod bach gwahanol sy'n byw yn y parc.

Cysylltiadau Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Celf.

CYNLLUNIO'CH YMWELIAD

I drefnu'ch ymweliad am ddim:

  • Trefnwch eich ymweliad o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw.
  • Ffoniwch Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty ar 0300 004 0000 i wirio'r argaeledd ar gyfer y dyddiad yr hoffech ymweld â’r lle.
  • Unwaith y byddwch wedi cytuno ar ddyddiad ac amser gyda Lido Ponty, llenwch a dychwelwch y ffurflen archebu ar-lein a fydd yn cael ei hanfon atoch chi drwy e-bost.

Mae athrawon ac arweinwyr grŵp yn gyfrifol am gynnal asesiadau risg cyn yr ymweliad yn unol â chanllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau addysg lleol.

Mae dogfen ‘trosolwg risg’ ychwanegol ar gael yma. Os ydych chi angen unrhyw wybodaeth bellach am y safle, cysylltwch â staff y Lido fel uchod.

 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo