Cafodd ei adeiladu yn 1927 mewn dull oedd yn nodweddiadol o'r cyfnod, gan gyflwyno naws Fediteranaidd gref i Gymoedd y De.
Ymhell cyn ei holl gyfoeth a chlod, âi Syr Tom Jones, sy o Bontypridd, yn aml i'r Lido. Yn y Lido, hefyd, fe ddarganfu Jenny James ei dawn fel nofiwr pan oedd yn 7 oed. Aeth ymlaen i gael gyrfa fel hyfforddwraig nofio ac achubwraig bywydau, gan achub bywydau dros 100 o bobl. Tra oedd hi'n gweithio'n achubwraig bywydau yn y Lido, roedd Jenny hefyd yn hyfforddi yno yn ei blynyddoedd cynnar. Roedd ei henw yn Llyfr Recordiau Guinness am mai hi, pan oedd yn 24 oed, oedd y person cyntaf o Gymru i nofio'r Sianel, a hynny mewn 13 awr a 55 munud ar 16 Awst, 1951. Bu farw yn 2014, yn 87 oed.
I goroni'ch taith i Lido Ponty, ewch i'n Canolfan i Ymwelwyr, lle cewch ddysgu llawer yn rhagor am ei orffennol. Ewch ar daith i'r gorffennol, i'r 20fed ganrif, ac yn ôl i'r 21ain ganrif, sef cyfnod sy'n nodi pennod newydd ym mywyd Lido Ponty. Bydd ymwelwyr yn cael goleuni pellach ar dreftadaeth leol, ac yn cael eu hudo ganddi. Byddan nhw hefyd yn dysgu am waith adnewyddu Lido Ponty.
Gwyliwch ddarn o ffilm arbennig ar ein sgriniau, yn ogystal â chyfweliadau â phobl leol sy'n siarad am eu hatgofion o faddonau Ponty. Mwynhewch ddefnyddio ein byrddau rhyngweithiol, cymryd rhan mewn cwis, cwblhau jigso a chwarae gemau eraill. Hwyl ar gyfer y teulu cyfan, heb os.
Mae Canolfan Ymwelwyr Lido Ponty uwchben The Waterside Café ac ar agor i'r cyhoedd o 9am tan 5pm bob dydd, drwy gydol y flwyddyn.
Mae hefyd yn cynnig golygfeydd gwych a phanoramig o Lido Ponty, Chwarae'r Lido a Pharc Coffa Ynysangharad. Mae Lido Ponty yn falch o'i dreftadaeth, yn ogystal â'i bresennol.
Ymunwch â ni yn y Ganolfan i Ymwelwyr wrth i ni ddathlu'n gorffennol, presennol a dyfodol... Yma, mae'r hwyl yn ddibaid, boed glaw neu hindda.