Tref farchnad yng nghanol Cymoedd y De yw Pontypridd. Mae hi'n ardal sydd â gorffennol diwydiannol balch, ac mae hi'n denu miliynau o ymwelwyr o bedwar ban byd bob blwyddyn.
Mae Cymru yn wlad hynod o hardd ac yn enwog am ei pharciau cenedlaethol, ei chestyll hanesyddol a'i harfordir prydferth. Wrth gwrs, mae hi hefyd yn enwog am Wisgi Penderyn, ac mae'i ddistyllfa ychydig o filltiroedd o Lido Ponty.
Mae gan Lido Ponty gysylltau arbennig o dda i rwydwaith yr M4, ac mae'n hawdd ei gyrraedd o Gyffordd 32 yr M4, gan ddilyn arwyddion i'r A470 ac i Bontypridd.
Lido Ponty yw'r atyniad i dwristiaid mwyaf diweddar i agor yng Nghymru. Mae'n mynd law yn llaw ag atyniadau eraill i deuluoedd fel Parc Oakwood, Folly Farm ac Amgueddfa Sain Ffagan.
Mae Cymru yn cynnig rhywbeth i bawb – llefydd arbennig i ymweld â nhw a phobl anhygoel, ynghyd ag amrediad eang o leoedd i fwyta ac yfed, a lleoedd i aros. Heb os, bydd angen mwy na diwrnod arnoch i weld a gwneud pob dim!
Am ragor o wybodaeth am ddiwrnodau i'w cofio yn Rhondda Cynon Taf ac am ein gwestai, ewch i Visit Rcht
![visit-wales-banner](/EN/Resident/SportsandLeisure/Lido/Images/Logos/visitwalesbanner.png)