Skip to main content
 

DIOGELWCH Y PWLL

 

Rhaid cadw at y cymarebau canlynol a rhaid i oedolyn cyfrifol oruchwylio’r plant sydd yn ei ofal

POLISI MYNEDIAD I'R PWLL:

  • 1 oedolyn yn gwmni i bob 1 plentyn o dan 5 oed
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob 2 blentyn rhwng 5 ac 8 oed
  • Does dim rhaid i blentyn 8 oed a hŷn fod yng nghwmni oedolyn, cyn belled â'i fod yn nofiwr medrus

Nodwch: Rhaid i unrhyw blentyn sy ddim yn nofiwr medrus fod yng nghwmni oedolyn, beth bynnag fo'i oed.

RHEOLAU'R PWLL

Mae gan Lido Ponty garfan achub bywyd hyfforddedig. Bydd y garfan yn eich cadw chi'n ddiogel wrth i chi fwynhau. Ond mae angen eich help ar y garfan.

Dilynwch y camau canlynol er mwyn mwynhau yn Lido Ponty:

  • Cadwch at holl wybodaeth ddiogelwch y parc dŵr a'r ardal gyfagos
  • Arhoswch o fewn dyfnder sy'n gyfforddus i chi
  • Cerddwch bob tro – peidiwch â rhedeg
  • Peidiwch â deifio
  • Dilynwch gyfarwyddyd ein carfan achub bywyd bob tro
  • Peidiwch â bwyta cyn mynd nofio
  • Gwisgwch wisg nofio addas bob tro
  • Rhaid i BOB plentyn 2 oed ac iau a'r rheiny sydd ddim wedi'u hyfforddi i fynd i'r tŷ bach wisgo cewyn nofio.

AWGRYMIADAU I RIENI

  • Pan ydych chi'n cyrraedd, edrychwch ble mae'r garfan achub bywyd
  • Peidiwch â gadael eich plant heb unrhyw un i ofalu amdanyn nhw, hyd yn oed os ydyn nhw'n gwisgo cymorth nofio
  • Sicrhewch fod eich plant yn iach cyn defnyddio'r cyfleusterau
  • Cofiwch ddweud wrth eich plant i gerdded bob tro, a byth rhedeg
  • Anogwch eich plant i fynd at y garfan achub bywyd os oes unrhyw broblem gyda nhw
 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo