Skip to main content

Newyddion

Adroddiad cynnydd pellach ar weithgarwch ar safle Tirlithriad Tylorstown

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf ar waith Cam Pedwar i adfer safle Tirlithriad Tylorstown. Mae'r rhan fwyaf o wastraff y pwll glo wedi'i symud i'r safle derbyn, ac mae cynnydd da wedi'i wneud i ddatblygu seilwaith draenio

13 Tachwedd 2023

Diwrnod y Rhuban Gwyn - Gwylnos yng Ngolau Cannwyll 2023

Ar 24 Tachwedd, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn arddangos ein cefnogaeth barhaus o elusen White Ribbon UK, drwy gynnal ein gwylnos yng ngolau cannwyll yng nghanol tref Pontypridd. Hon fydd y 9fed blwyddyn i ni gefnogi'r elusen.

13 Tachwedd 2023

Ailagor Heol y Maendy yn dilyn cynllun gosod pont newydd

Mae'r gwaith i osod y strwythur newydd ar y B4224, ger yr orsaf heddlu ac i'r de o gyffordd Y Rhodfa, wedi'i gwblhau tua chwe wythnos yn gynt na'r disgwyl

10 Tachwedd 2023

Rheolwr pêl-droed Cymru, Rob Page, yn ymweld â chae 3G newydd Parc y Darren

Cafodd Rob Page ei fagu yng Nghwm Rhondda a daeth i'n helpu ni i agor cae lleol arall yng Nghae Baglan, Penyrenglyn y llynedd

10 Tachwedd 2023

Ymddeoliad hapus ar ôl helpu disgyblion ym mhentref Beddau am genedlaethau

Mae un o Hebryngwyr Croesfan Ysgol y Cyngor wedi ymddeol ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth - y cyfnod hiraf yn hanes y Cyngor. Mae Marion Walker wedi treulio bron hanner ei hoes yn helpu disgyblion a theuluoedd ym mhentref Beddau i gyrraedd...

10 Tachwedd 2023

Gwaith hanfodol yn cael ei gynnal dros nos ar Ffordd Mynydd y Rhigos

Bydd yr A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos ar gau rhwng 9pm a 6am am 5 diwrnod rhwng 13 a 17 Tachwedd er mwyn cynnal gwaith trwsio a chynnal a chadw ar y rhwyd greigiau lle bu tân gwyllt mawr y llynedd

07 Tachwedd 2023

Teithiau bws rhatach yn Rhondda Cynon Taf y mis Rhagfyr yma

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd ar gyfer pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno ar gyfer mis Rhagfyr 2023 – gan ddarparu teithio rhatach dros...

06 Tachwedd 2023

Cynnal gwaith i drwsio rhan o wal yr afon ar Heol Berw

Mae disgwyl i'r gwaith i drwsio'r wal gerrig ger yr afon bara pedair wythnos - mae hyn yn cynnwys ailadeiladu rhan fach o'r strwythur

03 Tachwedd 2023

Paratoi safle Neuadd Fingo Pontypridd ar gyfer ailddatblygu

Mae'n bosibl y bydd ymwelwyr â Chanol Tref Pontypridd yn sylwi ar waith ar hen safle'r Neuadd Fingo'r wythnos nesaf, ar ôl i'r Cyngor benodi contractwr i wneud gwaith paratoadol cychwynnol cyn ei ailddatblygu'n llawn yn y Flwyddyn Newydd

03 Tachwedd 2023

Cefnogwch ein Hapêl Siôn Corn 2023

Er bod Nadolig yn sbel i ffwrdd, mae'r paratoadau yn dechrau nawr – rydym yn hapus iawn i gyhoeddi lansiad ein Hapêl Siôn Corn 2023!

01 Tachwedd 2023

Chwilio Newyddion