Skip to main content

Camwch i'ch dyfodol yn Ffair Swyddi Cyngor RhCT a'i Bartneriaid 2025!

Jobs-Fair-SEPT-2025-WELSH

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd ein Ffair Swyddi boblogaidd yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 1 Hydref yn Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH, rhwng 10am a 2pm. Bydd 'awr dawel' yn cael ei chynnal rhwng 9am a 10am.

Bydd yr achlysur am ddim yma'n gyfle i chi siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr a gweithwyr, cymryd rhan mewn gweithdai a fydd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer cyfweliad ac ysgrifennu CV, a dechrau ymgeisio am swyddi ar y diwrnod!

Bydd dros 50 o sefydliadau yn bresennol yn y ffair ac yn awyddus i lenwi swyddi sy'n addas i bawb yn y gymuned ar unwaith. Bydd rheolwyr gwasanaeth a gweithwyr y Cyngor yno hefyd, byddan nhw'n rhoi'r wybodaeth am weithio i Gyngor RhCT sydd ei hangen arnoch chi!

Mae Rhaglen i Raddedigion RhCT ar agor ar hyn o bryd, a bydd y rhaglen Brentisiaethau yn agor ym mis Ebrill, felly dyma'r cyfle perffaith i siarad â'r garfan a dysgu rhagor cyn y cylch nesaf!

Os ydych chi’n chwilio am ddechreuad newydd, newid gyrfa, neu rydych chi'n dechrau eich bywyd gwaith, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi yn Ffair Swyddi RhCT!

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydym yn falch o gyhoeddi ein hail Ffair Swyddi yn 2025, gan ddod â phobl leol a chyflogwyr ynghyd mewn un lle bywiog! Mae digwyddiadau fel hyn yn agor drysau i geiswyr gwaith archwilio llwybrau gyrfa newydd, yn ogystal â rhoi cyfle i fusnesau gysylltu â'r gymuned a chryfhau eu gweithlu.

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i'n trigolion gael mynediad at gyflogaeth o safon, ac mae hwn yn enghraifft wych o sut y gall ein cymuned gydweithio i adeiladu cyfleoedd, cefnogi twf a chreu economi leol gryfach.”

Mae rhestr o gyflogwyr sydd wedi cadarnhau y byddan nhw'n mynychu i’w gweld isod:

Abacare/CCH

Acorn Nurseries

Arc Labour Solutions PLC

Y Fyddin (Byddin Prydain)

Army Reserves

Bluewater Recruitment

Busnes Cymru

Care Cymru

Coleg Y Cymoedd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Drive

Addysgwyr Cymru

Edwards Coaches

Fillcare

Maethu Cymru RhCT

Yr Adran Gyllid a Thollau

Horizon Civil Engineering Ltd.

Itec

Korbuild LTD

Matrix Agency

MPS Industrial

Q Care

Cyngor Rhondda Cynon Taf – Gwasanaethau Arlwyo

Cyngor Rhondda Cynon Taf  - Carfan Datblygu Gofal Plant

Cyngor Rhondda Cynon Taf – Gwasanaethau i Blant ac i Oedolion

Cyngor Rhondda Cynon Taf – Gwasanaethau Demoecrataidd

Cyngor Rhondda Cynon Taf – Swyddig gwag

Gwaith a Sgiliau RhCT

Scope

Screen Alliance Cymru

SET Recruitment

Gwasanaeth Tân De Cymru

Wilmot Dixon

Community Catalyst

Cynefin Care

Insurance Institute of Cardiff

Arch Services Limited

Pritchard Holdings

Canolfan Byd Gwaith / Adran Gwaith a Phensiynau

Wedi ei bostio ar 11/09/2025