Skip to main content

Pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn rhagori yn y byd gwaith

IMG_7328

Dewch i gwrdd â'r grŵp rhagorol o bobl ifainc sy'n derbyn gofal sydd wedi rhagori mewn rhaglen sgiliau gwaith a phrofiad gwaith yr haf.

Bu busnesau lleol ac asiantaethau partner yn gweithio gyda charfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf i gyflwyno prosiect GofaliWaith, gan ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol y gall fod ei hangen ar bobl ifainc sy'n derbyn gofal maeth i ymuno â’r byd gwaith a hyfforddiant.

Cynigiodd caffis, siop hufen iâ, eglwys ac ysgol lwyfan leoliadau profiad gwaith gwerthfawr i Amy Thomas, Cameron Perry Roberts, Anakecia Howells, Kaitlin Nicholas a Lacey French. Cafodd pawb eu siomi ar yr ochr orau gan ymrwymiad a phroffesiynoldeb y bobl ifainc.

Fe wnaeth dau berson ifanc arall, Crystal Edwards a Leon Carre, hanes, wrth i Heddlu De Cymru newid ei bolisi profiad gwaith a gostwng yr oedran isaf o 18 oed, fel bod modd iddyn nhw ymuno â swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar y strydoedd!

Fe wnaeth pob un o'r bobl ifanc ragori ar eu lleoliadau ac mae nifer wedi cael cynnig cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli pellach o ganlyniad i hynny. Mae hyn yn dyst i'r brwdfrydedd a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd wrth iddyn nhw ymdrin â'u lleoliadau.

Ymunodd cyfanswm o 10 o bobl ifainc sy'n derbyn gofal, pob un ar ddiwedd blwyddyn 11 neu'n paratoi i ddechrau gweithio am y tro cyntaf, â Chynllun Cyflogadwyedd yr Haf GofaliWaith. Fe wnaethon nhw fwynhau sesiynau wythnosol drwy gydol yr haf ar sgiliau gwaith a chyflogadwyedd, gan orffen gyda phrofiad gwaith.

Roedd cyfle i ddathlu pob un ohonyn nhw mewn achlysur yn Eglwys Sant Elfan, Aberdâr, yn gynharach y mis yma. A hwythau yng nghwmni eu cynhalwyr a chynrychiolwyr o'u lleoliadau gwaith, cawson nhw ganmoliaeth am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â'r cwrs a'r ffordd gadarnhaol y gwnaethon nhw gynrychioli eu hunain ym myd gwaith.

 

“Dylai pob un o’r bobl ifainc yma fod yn hynod falch o’r ffordd y gwnaethon nhw ymrwymo i'r gweithdai haf a’u profiad gwaith”, meddai’r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn yr achlysur dathlu.

 

“Nid oedd llawer ohonyn nhw erioed wedi mynychu cyfle dysgu mewn grŵp na phrofiad gwaith o’r blaen. Roedd eraill wedi ei chael hi'n anodd mewn cyrsiau yn y gorffennol ond fe wnaethon nhw ymuno, ymrwymo a ffynnu. Fe wnaethon nhw fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd iddyn nhw a dylen nhw fod mor falch ohonyn nhw eu hunain.

 

"Mae'r adborth gan y rhai a gyflwynodd Gynllun Cyflogadwyedd yr Haf, a'r darparwyr profiad gwaith, wedi bod yn arbennig. Roeddech chi i gyd yn rhagorol. Dyma obeithio y bydd eich llwyddiant yr haf yma yn eich atgoffa chi i gyd o faint o botensial sydd gyda chi a'r hyn y mae modd i chi, a'r hyn rydych chi wedi, ei gyflawni.

 

"Fyddai'r cwrs yma ddim wedi bod mor llwyddiannus ag y mae, a fyddai ein pobl ifainc ddim wedi cael y cyfleoedd a gawson nhw, heb gefnogaeth ac ymroddiad busnesau a phartneriaid lleol sydd wedi ymrwymo i'n pobl ifainc cymaint ag yr ydyn ni wedi’i wneud. Diolch, rydyn ni'n ddiolchgar iawn i chi."

 

Roedd y Prif Uwch-arolygydd Stephen Jones, Comander Uned Reoli Sylfaenol ar gyfer Morgannwg Ganol, yn bresennol yn yr achlysur i gynrychioli'r Rhingyll Darryl Jones, y mae ei ymroddiad i gydweithio â Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran darparu cyfleoedd i bobl ifainc. Arweiniodd ei eiriolaeth at newid sylweddol ym mholisi profiad gwaith Heddlu De Cymru, gan ganiatáu i unigolion o dan 18 oed ymgymryd â phrofiad gwaith. 

O ganlyniad, cafodd Crystal a Leon gyfle i ymuno â swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar strydoedd Aberdâr a Phontypridd, gan chwarae rolau gweithredol mewn ymchwiliadau, gan gynnwys dod â lleidr gerbron y llys a dychwelyd eiddo wedi'i ddwyn i'w berchennog cyfreithlon.

 

Meddai'r Prif Uwch-arolygydd Stephen Jones: "Mae'r fenter yma wedi bod yn brofiad rhyfeddol i'n heddlu ni. Rydyn ni wedi dysgu cymaint gan Crystal a Leon ag y maen nhw wedi'i ddysgu gennym ni, gan werthfawrogi eu safbwyntiau unigryw a'u dulliau arloesol.

 

"Mae eu cyfranogiad wedi helpu i chwalu rhwystrau, ac wedi dangos y dewrder, y gonestrwydd a'r angerdd sy'n ymgorffori gwerthoedd craidd Heddlu De Cymru."

 

Mynychodd cynrychiolwyr o'r darparwyr profiad gwaith yr achlysur hefyd, a chawson nhw eu canmol am eu hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i bobl ifainc. Roedd y rhain yn cynnwys: Bradley's Café, Aberdâr; Eglwys Sant Elfan, a groesawodd ddau berson ifanc, Shake, Waffle and Cone yn Aberdâr, Delico Deli Aberdâr; a STAge Academy.

Mae eleni yn nodi 15 mlynedd o GofaliWaith, sef gwasanaeth cymorth pwrpasol i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, i'w helpu i ffynnu mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg bellach. Mae'n cynnig ystod o gyfleoedd, gan gynnwys Cynllun Cyflogadwyedd yr Haf. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Wedi ei bostio ar 08/09/2025