Skip to main content

Cynllun i leihau perygl llifogydd ar ffordd allweddol yn Nhonyrefail wedi'i gwblhau

Gilfach Road, Tonyrefail grid

Mae gwaith bellach wedi'i gwblhau i gyflawni buddsoddiad Ffyrdd Cydnerth ar y B4278 Heol Gilfach, #Tonyrefail, sydd â'r nod o leihau perygl llifogydd yn ystod glaw trwm.

Dechreuodd y cynllun ar ddechrau mis Mehefin 2025 a chafodd ei gwblhau yn ystod wythnos 1 Medi. Nodwch – mae wyneb dros dro wedi cael ei osod mewn rhai mannau gan fod gwaith ychwanegol i osod wyneb newydd wedi'i gynllunio yn yr wythnosau nesaf, a hynny er mwyn gwella wyneb y ffordd yn y lleoliad yma.

Manteisiodd y Cyngor ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y prif gynllun, sydd wedi'i leoli'n gyffredinol rhwng cylchfan yr A4093 a Mynwent Trane.

Mae wedi cynnwys gosod pibell newydd dros tua 200 metr o'r ffordd, ac mae 16 o gwteri newydd gyda gorchuddion capasiti mawr hefyd wedi'u darparu. Mae'r system ddraenio newydd yn defnyddio cwlfer presennol sy'n rhedeg o dan y ffordd ger y fynwent.

Yn dilyn cwblhau'r gwaith yr wythnos diwethaf, aeth Carfan Gofal y Strydoedd RhCT ati i symud yr holl oleuadau traffig dros dro o'r safle ac ailagor llwybrau troed lleol.

Mae'r cynllun yma yn Nhonyrefail yn un o 10 sy'n elwa ar fuddsoddiad gwerth £1.5 miliwn trwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth yn ystod y flwyddyn ariannol yma (2025/26), ar ôl i Gyngor Rhondda Cynon Taf ei sicrhau.

Mae hyn yn ychwanegol at y £4.52 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd, yn rhan o'i rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach, eleni.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad yn ystod cynllun Heol Gilfach, sydd wedi lleihau perygl llifogydd cyn yr hydref a'r gaeaf.

Wedi ei bostio ar 09/09/2025