Nodwch fod y gwaith parhaus ym Maes Parcio Heol Sardis, Pontypridd, bellach fwy neu lai wedi'i gwblhau.
Mae gwaith helaeth i wella goleuadau stryd wedi cael ei gynnal, gan gynnwys gosod goleuadau ychwanegol i wella lefelau golau yn ardal gyfan y maes parcio.
Cafodd y mast uchel ei symud o'r safle yn rhan o'r gwaith yma yn gynharach yn yr haf.
Bydd ŷ prif waith yn dod i ben ddydd Gwener, 12 Medi, ond efallai y byddwch chi’n sylwi ar ychydig o waith sy’n dal i fynd rhagddo wrth ddefnyddio’r maes parcio.
Bydd hyn yn cynnwys gosod bolardiau bach o gwmpas y goleuadau newydd a phaentio llinellau gwyn ar wyneb y ffordd.
Diolch i holl ddefnyddwyr y maes parcio am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma.
Wedi ei bostio ar 12/09/2025