Mae'r cynllun i greu man croesi diogel newydd ar yr A4233 Heol Trebanog #Trebanog bellach wedi'i gwblhau.
Cafodd y groesfan newydd â goleuadau ei chomisiynu a'i rhoi ar waith ddydd Mawrth 9 Medi. Hefyd, rhoddwyd wyneb newydd ar y ffordd gerbydau yn rhan o'r prosiect.
Cafodd y groesfan dros dro â goleuadau ei symud o'r safle gan gontractwr y Cyngor, Calibre Contracting Ltd, yn dilyn cwblhau'r cynllun ddydd Mawrth.
Mae'r groesfan newydd yn darparu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr, ac mae wedi'i chyflawni gan ddefnyddio cyllid o Raglen Gyfalaf barhaus y Priffyrdd a Thrafnidiaeth.
Diolch i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned ehangach am eich cydweithrediad yn ystod y cynllun dros yr wythnosau diwethaf.
Wedi ei bostio ar 11/09/2025