Mae'n bosibl y bydd ymwelwyr â Pharc Gwledig Cwm Clydach yn sylwi ar waith cynnal a chadw arferol yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y Cyngor yn cynnal y gwaith o ddydd Llun 15 Medi, ac mae disgwyl iddo bara tan tua diwedd mis Hydref 2025.
Mae cyllid wedi'i sicrhau trwy Gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru ar gyfer y cam cychwynnol yma o waith, a fydd yn cynnwys clirio llystyfiant i gynnal a chadw'r sianeli draenio a chwlferi.
Bydd gwaith clirio hefyd yn cael ei wneud i gynnal mynediad gwell ar gyfer arolygiadau a gwaith cynnal a chadw'r domen lo yn y dyfodol.
Bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn cynnal y gwaith, gan ddefnyddio'r rhyd ar Stryd Howard i gael mynediad i'r safle. Mae'n bosibl y bydd cynnydd yn nifer y cerbydau adeiladu yn y lleoliad yma o 8am tan 5pm, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Mae hefyd yn bosibl y bydd rhywfaint o darfu dros dro ar fynediadau i gerddwyr yn y parc gwledig yn ystod yr oriau yma, o ganlyniad i natur gul rhai llwybrau. Bydd ffensys ac arwyddion clir yn dangos y llwybrau y bydd angen eu cau dros dro.
Bydd yr holl lwybrau yn ailagor i'r cyhoedd ar ddiwedd pob diwrnod gwaith a dros y penwythnos felly bydd y ffensys yn cael eu symud. Mae'n bosibl y bydd angen rhai eithriadau er mwyn sicrhau diogelwch.
Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu trwy ddefnyddio'r dyraniad gwerth £11.49 miliwn o Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau'r cyllid yma i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/09/2025