Am y tro cyntaf, bydd yr achlysur pwysig a theimladwy, sydd mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei gynnal yn Y Muni, Pontypridd, ddydd Sul 2 Tachwedd.
Mae croeso cynnes i bawb o bob oed ddod i’r achlysur yma. Dewch i weld y perfformiadau milwrol sy'n dangos cefnogaeth tuag at bersonél ein Lluoedd Arfog yn y gorffennol a'r presennol.
Bydd plant ysgol ifanc talentog o gôr Ysgol Uwchradd y Pant, Cardiff Military Wives Choir a Band Tylorstown yn perfformio ochr yn ochr â'r unawdydd Heather Jones, yng nghwmni nifer o fanerwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Mae Cardiff Military Wives Choir yn perthyn i gymuned o gorau, gyda miloedd o fenywod ledled Y Deyrnas Unedig yn canu yn rhan o gôr gwragedd milwrol. Yr elusen Military Wives Choirs sy'n gyfrifol am ddod â menywod sydd â chysylltiadau i'r lluoedd arfog at ei gilydd i ganu, rhannu'u profiadau a chefnogi ei gilydd. Mae'r côr wedi perfformio mewn nifer helaeth o achlysuron, yn cynnwys perfformio ar Ddydd Gŵyl Dewi ac yn ystod Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru.
Efallai'ch bod chi wedi gweld pwysigrwydd y côr gwragedd milwrol, y dalent a'r emosiwn wrth i'r côr ymddangos yn y gyfres deledu 'The Choir': Military Wives gyda Gareth Malone, a aeth yn ei blaen i ysbrydoli'r ffilm “Military Wives”,sy'n cynnwys perfformiad gan Kristen Scott-Thomas. Mae'r ffilm yn adrodd y stori o sut dechreuodd yr elusen.
Mae gan Ysgol Uwchradd y Pant enw da ym maes perfformio ac mae'r unawdydd Heather Jones yn gyfarwydd â pherfformio mewn achlysuron milwrol.
Mae Band Tylorstown yn gyn-enillwyr yn yr Eisteddfod ac yn cystadlu'n genedlaethol ar lefel pencampwriaeth ledled y DU.
Mae Heather Dolly Jones yn ganotres-gyfansoddwraig dalentog o Bontypridd, sy'n astudio Cerddoriaeth (Ysgrifennu Caneuon a Pherfformio) yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl ar hyn o bryd. A hithau wedi'i chydnabod fel Seren Newydd Loud Applause yn 2022, mae hi wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog gan gynnwys Castell Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru a Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl. Mae cefndir theatr gerdd Heather yn cynnwys rolau megis Scaramouche yn We Will Rock You, ac mae hi wedi ennill Teilyngdod mewn Gitâr Drydan Gradd 7. Mae ei sengl gyntaf “My Love” yn arddangos ei chelfyddyd esblygol, ac mae hi'n lanlwytho fideos ar lwyfannau megis YouTube a TikTok yn rheolaidd. Gyda hyfforddiant lleisiol gan David Fortey a mentora gan Peter Mitchell, mae Heather hefyd wedi mynychu dosbarthiadau meistr gydag eiconau megis Bjorn Ulvaeus o ABBA a Mike Joyce o The Smiths.
Bydd y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd yn arwain y gwasanaeth goffa.
Nid gwledd o gerddoriaeth, canu a pherfformiadau milwrol yn unig yw'r achlysur, mae Gŵyl y Cofio hefyd yn brydferth yn weledol. Bydd y gynulleidfa'n mwynhau gweld lliwiau'r baneri, y gwisgoedd, ac wrth gwrs y foment ysblennydd wrth i'r pabïau gwympo o do Y Muni.
Yr arweinydd corawl adnabyddus John Asquith fydd yn arwain y côr. Ac yntau’n wreiddiol o Gwm Rhondda, mae John wedi perfformio ym mhedwar ban byd ac mae'n hyfforddwr Rwsiaidd i'r Opera Cenedlaethol Cymru. Mae wedi perfformio yn 'The Bards of Wales' yn ninas Budapest, Hwngari, Romania a'r UDA, gan hefyd chwarae rhan allweddol yng Ngŵyl y Cofio ers nifer o flynyddoedd.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:
Eleni ydy'r tro cyntaf i ni gynnal Gŵyl y Cofio yn Y Muni, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cynifer o bobl ag sy'n bosib i'r achlysur ar 2 Tachwedd.
"Mae'n braf gweld talent leol a chynrychiolwyr o'r lluoedd arfog yn dod at ei gilydd er mwyn sicrhau bod achlysur Gŵyl y Cofio yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed a diddordeb. Bydd rhieni wrth eu boddau yn gwylio perfformiadau gan ddisgyblion oed ysgol, ac rydw i'n siŵr bydd Cardiff Military Wives Choir yn ysbrydoli'r gynulleidfa.
Yn bwysicach fyth, mae gyda ni gefnogaeth cymuned y Lluoedd Arfog gyda'r achlysur yma wrth i Fanerwyr o'r Lleng Brydeinig Frenhinol arwain yr achlysur.
Achlysur ffurfiol a theimladwy ydy Gŵyl y Cofio, ar gyfer talu teyrnged i'r rhai sydd wedi, neu'n parhau i wasanaethu'n gwlad. Ond rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr achlysur yn cynnwys cerddoriaeth a gwledd weledol i sicrhau bod pawb yn mwynhau'r Ŵyl.
Cynhelir Gŵyl y Cofio yn Y Muni, Pontypridd, ddydd Sul 2 Tachwedd o 6.30pm (bydd drysau'n agor am 6pm). Pris y tocynnau yw £10 ac maen nhw ar gael i'w prynu ar-lein yn www.y-muni.co.uk neu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 03000 554488.
Bydd tocynnau ar werth ddydd Mercher 10 Medi am 10am.
Mae parcio am ddim ar gael ym mhob maes parcio'r Cyngor ym Mhontypridd. Cliciwch yma am ragor o fanylion.
Wedi ei bostio ar 10/09/2025