Mae'r Cyngor yn ymgynghori â phreswylwyr unwaith eto er mwyn llywio ein cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.
Roedd y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb rhagamcanol gwerth bron i £17 miliwn. Cafodd y diffyg yma ei leihau i £9.9 miliwn erbyn mis Gorffennaf 2018 ar ôl i'r Cyngor lwyddo i gyflawni'i arbedion wedi'u cynllunio. Roedd y cynnydd o 0.3% mewn cyllid a gafodd ei nodi ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn rhan o setliad dros dro Llywodraeth Cymru yn gadarnhaol iawn ar gyfer yr Awdurdod Lleol. Golyga hyn ein bod ni'n wynebu diffyg yn y gyllideb llai o £5.9 miliwn. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn golygu bod modd i ni llacio o ran ein gwaith i sicrhau arbedion effeithlonrwydd mewnol ac rydyn ni dal i wynebu heriau sylweddol o ran lleihau'r diffyg yn y gyllideb. Mae chwyddiant a'r galw cynyddol ar ein gwasanaethau yn golygu bod y cynnydd yma mewn cyllid, mewn gwirionedd, yn golygu toriadau ariannol ar gyfer yr Awdurdod Lleol.
Rydyn ni'n effro iawn i'r ffaith bod angen i ni ddarparu gwasanaethau y mae ein preswylwyr yn falch iawn ohonyn nhw, gan gadw mewn cof yr angen i osgoi gosod straen cynni ar ein preswylwyr. Rydyn ni hefyd wedi parhau i arddangos dull cyson a rhagweithiol o reoli ein cyllid yn ystod y flwyddyn ariannol yma - mae cyflawni ein targed uchelgeisiol o £6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd yn dyst i hyn. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau barhau i leihau, mae'n fwy anodd i ni gynnal cyflawni arbedion effeithlonrwydd o'r fath yma. Gan ddweud hynny, byddwn ni'n parhau i chwilio am ddulliau arloesol o osgoi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ble'n bosibl.
Mae ein gweithgareddau ymgysylltu â phreswylwyr yn rhan annatod o broses penu cyllideb y Cyngor, gan ein bod ni'n cydnabod eich bod chi wrth wraidd yr amrywiaeth o weithgareddau rydyn ni'n eu cynnig. Roedd bron i 1,600 o bobl wedi cynnig adborth gwerthfawr iawn i ni y llynedd, boed hynny wyneb yn wyneb yn ystod achlysuron ymgysylltu yng nghanol trefi, canolfannau hamdden neu lyfrgelloedd; neu trwy ddefnyddio efelychydd cyllideb ar-lein y Cyngor. Er mwyn manteisio ar hyn, byddwn ni'n defnyddio'r un broses eleni, ac rydw i'n annog pob preswylydd i ddysgu rhagor am y broses trwy glicio'r ddolen gyswllt isod.
Er gwaethaf y cynni, rydyn ni'n parhau i gyflawni ein rhaglen buddsoddi cyfalaf, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr ar bob un o'r blaenoriaethau a gafodd eu nodi ar ddechrau tymor y Cyngor. Mae modd i chi ein helpu ni i nodi eich blaenoriaethau chi trwy gymryd rhan yn y broses yma. Yna bydd modd i ni dargedu ein dull gwario mewn modd gwell er mwyn cyflawni'r gwelliannau rydych chi'n dymuno eu gweld yn eich cymunedau.
Ar sail yr adborth a gafodd ei gyflwyno llynedd, rydyn ni wedi llwyddo i gynnal ein rhaglen buddsoddi cyfalaf er mwyn cyflawni gwelliannau i'r meysydd sydd o bwys i chi ar draws RhCT - gan gynnwys ein priffyrdd, ein hysgolion, ein cyfleusterau hamdden a chwarae a'n canol trefi.
Wedi ei bostio ar 19/11/2018