Skip to main content

Ein Cynllunia o ran yr Hinsawdd

Mae'r Cyngor yn chwarae ei ran i fynd i'r afael â’r Newid yn yr Hinsawdd ac wedi nodi ei dargedau a'i ymrwymiadau yn ei Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd 2022–25 – Hinsawdd Ystyriol RhCT.

Mae strategaeth 'Hinsawdd Ystyriol RhCT' yn nodi sut y byddwn ni'n lleihau allyriadau carbon o fewn y Cyngor a, thrwy weithio ar ein pennau ein hunain ac ar y cyd â phartneriaid, sut y byddwn ni'n cefnogi ac yn dylanwadu ar drigolion, cymunedau, a busnesau yn y Fwrdeistref Sirol i leihau eu rhai nhw. Wrth gyflawni cynlluniau allweddol, er enghraifft trafnidiaeth a chynhyrchu ynni gwyrdd ac arwain drwy esiampl, ein nod ni yw ei gwneud yn haws i'n trigolion, ysgolion, cymunedau, ymwelwyr, a busnesau wneud dewisiadau di-garbon neu garbon isel.

Erbyn 2030

  • Bydd RhCT yn gyngor carbon niwtral
  • Bydd y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn garbon niwtral
  • Byddwn ni wedi cyfrannu at fodloni uchelgais Llywodraeth Cymru o gael sector cyhoeddus sero net

Dyma fideo byr am sut rydyn ni'n mynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd yn Rhondda Cynon Taf

Llwodraeth Cymru

Y nod yw cael Cymru sero net erbyn 2050, sy’n golygu bod y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu tynnu o’r atmosffer mewn cydbwysedd â’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru. Mae angen i ni gyd weithio gyda’n gilydd i wireddu hyn – Llywodraeth Cymru, Nghyngor RhCT, cymunedau, busnesau, a phawb yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth am sut yr ydym am gyrraedd yno, ewch i Lywodraeth Cymru – Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.

Cysylltwch â ni trwy e-bostio: NewidHinsawdd@rctcbc.gov.uk 

Climate-change-banner