Skip to main content

Newyddion

Uwchraddio goleuadau traffig ar yr A4119 ger Tesco Tonysguboriau

Bydd y Cyngor yn cychwyn ar gynllun i uwchraddio'r goleuadau traffig ar yr A4119 ger Tesco Tonysguboriau. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith yn ystod y ddau ddydd Sul olaf ym mis Ionawr a bydd pythefnos o waith yn digwydd ym mis Chwefror

21 Ionawr 2021

Adnewyddu trwyddedau ar gyfer y rhai sy'n byw o fewn parth parcio preswyl

Mae'r Cyngor yn atgoffa'r bobl hynny sy'n byw o fewn parth parcio preswyl bod angen adnewyddu eu trwyddedau blynyddol erbyn 31 Mawrth – ac mae modd iddyn nhw gwblhau'r broses yma cyn y dyddiad cau

21 Ionawr 2021

Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau arfaethedig ar gyfer Llantrisant

Mae'r Cyngor yn gwahodd trigolion i ddweud eu dweud ar gynigion diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Llantrisant. Byddai'r cynigion yma'n helpu i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan drigolion ynghylch lefel a chyflymder y traffig sy'n...

18 Ionawr 2021

Canolfan Brechu yn y Gymuned Covid-19 i agor yng Nghwm Rhondda

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi cyflwyno'r brechlyn Covid-19 yn genedlaethol, ac mae'n sefydlu Canolfan Brechu yn y Gymuned yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

18 Ionawr 2021

Gweithiwr y Flwyddyn Gwobrau'r Faner Werdd

Mae gweithiwr Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael ei goroni'n Weithiwr y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Faner Werdd, gan guro pawb arall a gafodd enwebiad o bob cwr o'r wlad i ennill y teitl uchel ei glod.

18 Ionawr 2021

Cyllid Cynnig Gofal Plant ychwanegol i helpu 31 o ddarparwyr yn ystod y pandemig

Mae'r Cyngor wedi sicrhau £122,000 ychwanegol trwy Gynllun Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant, a fydd wedi'i dargedu i helpu darparwyr gofal plant lleol i addasu i amgylchiadau newydd yn sgil pandemig COVID-19

15 Ionawr 2021

Blwyddyn Newydd WYCH wrth i ni dorri recordiau ailgylchu!

Blwyddyn Newydd WYCH wrth i ni dorri recordiau ailgylchu!

14 Ionawr 2021

Cyngor Rhondda Cynon Taf i gynnal ei Ffair Yrfaoedd Rithwir gyntaf

Mewn ymateb i argyfwng cenedlaethol parhaus y Coronafeirws, ac wrth ddyfalbarhau i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i drigolion, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir AM DDIM ddydd Mercher, 10 Chwefror

13 Ionawr 2021

Y Cyngor yn agor Canolfan Rheoli Argyfyngau newydd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi agor ei Ganolfan Rheoli Argyfyngau newydd yn swyddogol. Bydd yn cael ei defnyddio os bydd digwyddiadau difrifol sy'n effeithio ar y Fwrdeistref Siriol a diogelwch ei thrigolion.

13 Ionawr 2021

Rheoli Perygl Llifogydd – proses ymgysylltu â'r cyhoedd ar y gweill

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion a busnesau sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd y llynedd i lenwi arolwg a fydd yn helpu Swyddogion i goladu gwybodaeth leol, data digwyddiadau storm a gwybodaeth hanesyddol am lifogydd

12 Ionawr 2021

Chwilio Newyddion