Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi agor ei Ganolfan Rheoli Argyfyngau newydd yn swyddogol. Bydd yn cael ei defnyddio os bydd digwyddiadau difrifol sy'n effeithio ar y Fwrdeistref Siriol a diogelwch ei thrigolion.
Nod y cyfleuster yma, sydd mewn lleoliad canolog ac yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, yw caniatáu i'r Cyngor reoli digwyddiadau ar 'Lefel Strategol.' Fydd ochr weithredol unrhyw ymateb ddim yn cael ei rheoli o'r ganolfan, ond bydd modd i unigolion allweddol gadw mewn cysylltiad â'i gilydd. Hefyd, bydd modd i reolwyr gael mynediad at wybodaeth gywir ar unwaith i'w helpu nhw i ddod i benderfyniadau holl bwysig.
Mae Canolfan Rheoli Argyfyngau RhCT yn cynnwys un brif ystafell ar gyfer rheolwyr digwyddiadau (gan gynnwys asiantaethau partner) a staff cymorth, yn ogystal â dwy ystafell drafod.
Roedd 2020 yn un o'r blynyddoedd mwyaf heriol yn hanes y Cyngor. Yn gyntaf, roedd rhaid mynd i'r afael â llifogydd mawr ledled yr ardal, a effeithiodd ar filoedd o adeiladau, o fusnesau i gartrefi teuluoedd. Hefyd, yn ôl y cofnodion, roedd lefelau'r afonydd ar eu huchaf erioed.
Yn sgil hyn, daeth pandemig byd-eang COVID-19, sy'n parhau i effeithio ar bawb a phopeth rydyn ni'n ei wneud bob dydd. Yn anffodus, mae'r feirws wedi cael effaith andwyol ar filoedd o bobl, gan achosi niwed i'w hiechyd neu golli bywyd yn gyfan gwbl.
Drwy hyn oll, mae staff Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gweithio ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos. Mae cannoedd o aelodau'r staff hefyd wedi cael eu hadleoli i feysydd gwasanaeth eraill lle y mae eu hangen nhw, gan gynnwys helpu staff gofal, y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, profi torfol, dosbarthu bwyd a llawer o feysydd eraill.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Dyma'r flwyddyn fwyaf heriol erioed i’n Hawdurdod Lleol, ond mae ymateb ein staff wedi bod yn rhyfeddol, ac maen nhw'n parhau i wneud hynny hyd heddiw.”
“Ar ddechrau unrhyw ddigwyddiad difrifol yn y dyfodol, bydd Canolfan Rheoli Argyfyngau newydd y Cyngor yn galluogi Uwch Swyddogion ac asiantaethau partner i fod mewn un lleoliad canolog. Bydd modd casglu ynghyd yr holl wybodaeth sy’n dod i law, ei dyrannu ac ymateb ar unwaith i unrhyw ddigwyddiad difrifol wrth iddo ddatblygu.”
Yn ystod digwyddiad o'r fath, bydd carfanau gorchymyn yn cael eu sefydlu ar unwaith ar dair lefel, sef Aur, Arian ac Efydd. Bydd y carfanau yma'n cydlynu'r holl waith gan ddefnyddio llygad barcud ac agwedd broffesiynol heb ei hail.
Bellach, bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal o'r Ganolfan Rheoli newydd gan Uwch Swyddogion y Cyngor, ar y cyd â chynrychiolwyr o asiantaethau partner. Mae gyda'r ystafell reoli'r holl gyfleusterau gwyliadwriaeth a monitro diweddaraf sydd eu hangen i reoli digwyddiadau critigol ar y lefel uchaf. Hefyd, mae generadur wrth gefn ar y safle sy'n gallu gweithredu os caiff y pŵer ei golli'n llwyr.
Mae hefyd yn elwa ar y gallu i ddeialu depos Dinas ac Abercynon y Cyngor yn uniongyrchol, yn ogystal â theledu cylch cyfyng a chyfleusterau galwadau cynhadledd fideo a ffôn. Yn ogystal â'i defnyddio'n gyfrifiadur ac ar gyfer galwadau cynhadledd, gall y brif sgrin hefyd ddangos delweddau o system teledu cylch cyfyng eang a thelemetreg y Cyngor, ynghyd â delweddau o gwlfertau allweddol.
Hefyd, mae sgrin gyffwrdd 55 modfedd yn yr ystafell sydd wedi'i chysylltu â system gyfrifiadurol. Mae'n golygu bydd modd gweld mapiau a throshaenau mapiau mewn manylder. Er mwyn cefnogi gweithio amlasiantaeth ar y safle yn ystod unrhyw ddigwyddiad difrifol, mae cysylltiad di-wifr yno hefyd.
Wedi ei bostio ar 13/01/2021