Skip to main content

Cyllid Cynnig Gofal Plant ychwanegol i helpu 31 o ddarparwyr yn ystod y pandemig

childcare 2

Mae'r Cyngor wedi sicrhau £122,000 ychwanegol trwy Gynllun Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant, a fydd wedi'i dargedu i helpu darparwyr gofal plant lleol i addasu i amgylchiadau newydd yn sgil pandemig COVID-19.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, cafodd y Cynllun ei sefydlu er mwyn galluogi lleoliadau gofal plant i gynnal gwaith cyfalaf hanfodol neu brynu offer – a hynny er mwyn cynyddu nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant y mae modd iddyn nhw eu cynnig neu er mwyn gwella ansawdd eu cyfleusterau. Fe dderbyniodd y Cyngor £120,000 yn y lle cyntaf yn 2019/20, ac fe gafodd y rhan fwyaf o'r swm yma ei dyrannu i leoliadau gofal plant ar y pryd.

Yn y rownd ddiweddaraf yma, llwyddodd 31 o leoliadau i sicrhau cyfran o gyfanswm y cyllid, sef £165,000, sydd hefyd yn cynnwys gweddill dyraniad 2019/20 y Cyngor.

Mae enghreifftiau o sut mae'r cyllid diweddaraf yn cael ei ddefnyddio yn cynnwys defnyddio'r cyfleusterau awyr agored presennol, datblygu lleoedd gofal plant, ymestyn cyfleusterau toiledau a gosod lloriau y mae modd eu golchi yn lle carped. Mae'r 31 o ddarparwyr yn cynnwys 6 lleoliad yng Nghwm Rhondda, 8 yng Nghwm Cynon ac 17 yn ardal Taf.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'r Cyngor wedi croesawu'r cyllid diweddar pwysig yma, sy'n dod â chyfanswm ein dyraniad o Gynllun Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant i £242,000 ers 2019/20. Mae'r dyraniad diweddaraf o £122,000 gan Lywodraeth Cymru wedi'i dargedu'n benodol at helpu lleoliadau gofal plant i weithredu yn ystod yr adeg anodd yma.

“Fel cynifer o grwpiau, sefydliadau a busnesau eraill ledled ein cymdeithas, mae darparwyr gofal plant wedi gorfod gwneud newidiadau pwysig wrth ymateb i bandemig COVID-19 – gan gadw at ganllawiau a roddwyd ar waith i sicrhau bod modd iddyn nhw weithredu mor ddiogel â phosibl. Daeth nifer uchel o geisiadau i law am gymorth ychwanegol trwy'r cyllid diweddaraf, ac rwy'n falch bod y Cyngor wedi cyhoeddi bod 31 o geisiadau'n llwyddiannus.

“Bydd yr arian yn cael ei gynnig at ddefnydd penodol mewn ymateb i’r pandemig ac i weithredu mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID. Mae'r rhain yn amrywio o geisiadau llwyddiannus am gysgodlenni, gasebos, arwynebau chwarae diogelwch, gwaith garddio, offer chwarae ac offer storio – a hynny er mwyn defnyddio mannau awyr agored yn well. Mae dyfarniadau cyllid ar gyfer gwaith mewnol yn cynnwys creu ardaloedd newydd, adnewyddu ac ymestyn cyfleusterau presennol a mesurau newydd i gydymffurfio â chanllawiau glanhau llym.”

Wedi ei bostio ar 15/01/2021