Skip to main content

Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau arfaethedig ar gyfer Llantrisant

llantrisant safe routes 2

Mae'r Cyngor yn gwahodd trigolion i ddweud eu dweud ar gynigion diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer Llantrisant. Byddai'r cynigion yma'n helpu i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan drigolion ynghylch lefel a chyflymder y traffig sy'n teithio trwy'r dref.

Gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, byddai'r cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau arfaethedig yn cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn Llantrisant ac yn lleihau'r terfyn cyflymder ar Gomin Llantrisant i 30mya. Cynigir mesurau gostegu traffig ychwanegol hefyd, ynghyd â therfyn pwysau 7.5 tunnell ar gyfer cerbydau – ar wahân i'r rhai sydd angen mynediad i eiddo lleol.

Mae'r hysbysiad cyhoeddus ar gyfer y cynigion yn cychwyn ar 18 Ionawr, ac mae rhaid i'r rheiny sydd â diddordeb mewn rhannu eu barn wneud hynny erbyn dydd Llun, 8 Chwefror. Bydd yr holl adborth sy'n dod i law yn helpu i lywio'r broses benderfynu ar gyfer y cynigion yma.

Mae llythyrau sy'n amlinellu'r cynllun arfaethedig wrthi'n cael eu hanfon at holl drigolion Llantrisant, gan gynnwys manylion am sut i ddweud eich dweud. Mae cynlluniau manwl hefyd ar gael ar wefan y Cyngor  www.rctcbc.gov.uk/traffig.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae swyddogion wedi cyflwyno cynigion sydd â’r nod o wella diogelwch ar y ffyrdd yn Llantrisant, a hynny mewn ymateb i bryderon y gymuned ynghylch lefel y traffig yn y dref a pha mor gyflym y mae cerbydau’n teithio. Os cytunir ar y cynigion, bydd terfynau cyflymder yn cael eu gostwng mewn sawl lleoliad, a bydd terfyn pwysau newydd yn cael ei roi ar waith a fydd yn atal cerbydau mawr rhag ceisio teithio ar ffyrdd anaddas.

“Mae'r ymgynghoriad yma'n dilyn proses debyg mewn perthynas â chynigion Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn y dyfodol ar gyfer Cilfynydd, y gofynnwyd i drigolion ddweud eu dweud erbyn 15 Ionawr. Mae'r cynigion ar gyfer Cilfynydd a Llantrisant yn dilyn nifer o gynlluniau a gafodd eu cyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys gwelliannau diogelwch y ffyrdd ar gyfer Cwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci yn 2018/19, a chynlluniau ar wahân yn Llwynypia ac Abercynon y llynedd.

“Mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun posibl yn Llantrisant. Mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar y cynigion hyd at 8 Chwefror, a bydd eu sylwadau yn cael eu hystyried gan Swyddogion wrth symud ymlaen.”

Er mwyn dweud eich dweud, anfonwch eich sylwadau trwy e-bostio gwasanaethautraffig@rctcbc.gov.uk neu ysgrifennwch at y Rheolwr Traffig, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU.
Wedi ei bostio ar 18/01/2021