Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi cyflwyno'r brechlyn Covid-19 yn genedlaethol, ac mae'n sefydlu Canolfan Brechu yn y Gymuned yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, sy'n eiddo i'r Cyngor, yn cael ei hailfodelu er mwyn rhoi brechlynnau yn ddiogel i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Bydd y brechlynnau yma'n sicr o achub bywydau.
Rydyn ni'n atgoffa pobl bod rhaid iddyn nhw gael gwahoddiad ac apwyntiad i gael brechlyn. Ni ddylai unrhyw un ymweld â'r safle oni bai bod ganddo apwyntiad brechu. Mae hyn oherwydd bod y brechlyn Covid-19 yn cael ei gyflwyno yn ôl blaenoriaeth ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar lefel y risg y mae gwahanol grwpiau yn ei hwynebu yn sgil Covid-19.
Gofynnir i bobl hefyd beidio â ffonio na chysylltu â'u meddyg teulu, fferyllfa neu ysbyty i ofyn pryd y byddan nhw'n cael y brechlyn. Cysylltir â phobl yn y grwpiau blaenoriaeth yn unigol a byddan nhw'n cael eu gwahodd i gael y brechlyn.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn penderfynu ar y grwpiau sydd i'w blaenoriaethu ar lefel y DU. Dyma'r rhestr o flaenoriaethau:
- preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a'u cynhalwyr
- pawb sy'n 80 oed ac yn hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- pawb sy'n 75 oed ac yn hŷn
- pawb sy'n 70 oed ac yn hŷn ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
- pawb sy'n 65 oed ac yn hŷn
- pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes sy'n wynebu risg uwch o salwch difrifol a marwolaeth
- pawb sy'n 60 oed ac yn hŷn
- pawb sy'n 55 oed ac yn hŷn
- pawb sy'n 50 oed ac yn hŷn
Y Ganolfan Brechu yn y Gymuned (Covid-19) yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda fydd yr ail ganolfan o'r fath a sefydlwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, eisoes wedi cael eu hailfodelu ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ac mae miloedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gan gynnwys staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wedi cael eu brechu yno.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i'n falch iawn bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau y bydd ail Ganolfan Brechu yn y Gymuned Covid-19 yn agor yn Rhondda Cynon Taf yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda.
“Trwy gydol argyfwng cenedlaethol Covid-19, mae Cyngor RhCT wedi gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i arafu lledaeniad heintiau Covid-19 yn ein cymunedau.
“Yn ogystal â chefnogi sefydlu Canolfannau Brechu yn y Gymuned Covid-19 yn ein safleoedd, mae ein staff yn cefnogi gwaith trefnu brechlynnau ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Byddwn ni'n hyfforddi rhagor o staff cyn bo hir i roi'r brechlyn fel bod modd cyflwyno'r rhaglen frechu hyd yn oed yn gyflymach.
“Rydyn ni hefyd yn cynnal trafodaethau â chlystyrau meddygon teulu lleol a darparwyr gofal sylfaenol i ddarparu lleoliadau ychwanegol os oes angen, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer hyn.
“Mae'r brechlyn yn cynnig cyfle i ni droi'r llanw yn erbyn y feirws marwol yma. Serch hynny, wrth i ni barhau i frechu'r grwpiau hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf yn sgil y feirws, mae rhaid i ni i gyd barhau i ddilyn y mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn ein hiechyd ein hunain ac iechyd y rhai o'n cwmpas. Mae hyn yn cynnwys parhau i gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo mwgwd pan fo'n ofynnol i chi wneud hynny neu mewn mannau lle mae pobl eraill.
“Rydyn ni ar adeg wirioneddol dyngedfennol yn yr argyfwng iechyd yma. Mae nifer sylweddol o bobl yn dal i gael eu heintio bob dydd ac mae cynnydd parhaus yn nifer y rhai sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, sy'n effeithio ar wasanaethau ysbytai.
“Mae ein cydweithwyr yn y GIG dan bwysau sylweddol oherwydd Covid-19. Rydyn ni'n benderfynol o’u cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl fel bod modd iddyn nhw barhau i ganolbwyntio ar roi triniaeth i'r rhai sydd ei hangen fwyaf.
“Mae angen cefnogaeth y gymuned arnon ni hefyd yn fwy nag erioed. Rydyn ni'n deall pa mor anodd fu hi i bobl fyw gyda chyfyngiadau sylweddol ar eu bywydau bob dydd, ac rydw i am ddiolch i'r holl drigolion hynny sy'n parhau i ddilyn y cyfyngiadau a roddwyd ar waith. Mae'r brechlyn yn cynnig gobaith i ni, ac mae angen i ni barhau i atal y feirws yma rhag achosi marwolaethau ychwanegol hyd nes y bydd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn cael eu hamddiffyn.”
Meddai Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall ar gyfer ein rhaglen frechu COVID-19, wrth i ni anelu at gynnig y brechlynnau mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.
“Mae sicrhau’r safle yma, ynghyd â'r safle yn Abercynon sydd eisoes ar agor, yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ac rydyn ni'n diolch i Gyngor RhCT am ei gefnogaeth barhaus.”
Wedi ei bostio ar 18/01/2021