Skip to main content

Uwchraddio goleuadau traffig ar yr A4119 ger Tesco Tonysguboriau

Tesco Talbot Green cropped

Bydd y Cyngor yn cychwyn ar gynllun i uwchraddio'r goleuadau traffig ar yr A4119 ger Tesco Tonysguboriau. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith yn ystod y ddau ddydd Sul olaf ym mis Ionawr a bydd pythefnos o waith yn digwydd ym mis Chwefror.

Bydd y cynllun yn gosod goleuadau traffig newydd yn y lleoliad yma ar yr A4119 Heol Talbot, i ddarparu dilyniant golau mwy effeithlon wrth y gyffordd brysur a gwella llif y traffig. Bydd y gwaith yn digwydd o amgylch y fynedfa i'r archfarchnad, a bydd angen cau lonydd o bryd i'w gilydd, yn ogystal â rhoi mesurau rheoli traffig ar waith.

Bydd y gwaith yn digwydd ar yr adegau canlynol (os bydd y tywydd yn caniatáu hynny):

  • Dydd Sul, 24 Ionawr (8am - 4pm), cau lonydd/dargyfeirio traffig.
  • Dydd Sul, 31 Ionawr (8am - 4pm), cau lonydd/dargyfeirio traffig.
  • Dydd Sul, 7 Chwefror (8am) i ddydd Llun, 8 Chwefror (8am), cau lonydd/dargyfeirio traffig.
  • Dydd Llun, 8 Chwefror i ddydd Sul, 21 Chwefror, signalau traffig tair ffordd ar gyfer gweddill y cynllun.

Bydd y dargyfeiriadau yn annog gyrwyr i ddefnyddio mynedfa'r parc siopa er mwyn mynd i mewn i'r ardal a'i gadael - a hynny er mwyn osgoi'r ardal waith wrth y goleuadau traffig ger Tesco. Mae modd i yrwyr hefyd gael eu dargyfeirio i'r gyffordd nesaf er mwyn gallu gwneud tro pedol a defnyddio'r fynedfa i Tesco sydd ar ochr arall y ffordd gerbydau.

Mae'r Cyngor yn annog gyrwyr i gadw hyn mewn cof a neilltuo amser ychwanegol ar gyfer gwneud teithiau lleol tra bo'r gwaith yma'n mynd rhagddo. Disgwylir i'r gwaith sy'n gofyn am gau lonydd ddigwydd ar benwythnosau neu dros nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Mae'r A4119 yn rhan bwysig o Ranbarth Porth Cwm Rhondda, ac mae'r Cyngor wedi'i nodi'n Ardal Cyfleoedd Strategol ar gyfer buddsoddiad a thwf economaidd. Cafodd buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ei wneud i wella Cylchfan Tonysguboriau yn 2017, ac fe gafodd goleuadau traffig Tonysguboriau eu gwella yn rhan o gynlluniau yn 2018 a 2019.

Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i ddyblu 1.5km o'r A4119 rhwng Coed-elái ac Ynysmaerdy yn y dyfodol, ar ôl neilltuo £7.48 miliwn i'r cynllun hyd yn hyn a sicrhau cyllid o £1.33m gan Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, cyflawnwyd gwelliannau leinin ar Gylchfan Ynysmaerdy, tra bod gwelliannau Teithio Llesol ar gylchfan Coed-elái hefyd ar y gweill.

Wedi ei bostio ar 21/01/21