Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf i gynnal ei Ffair Yrfaoedd Rithwir gyntaf

VIRTUAL CAREERS FAIR WELSH

Mewn ymateb i argyfwng cenedlaethol parhaus y Coronafeirws, ac wrth ddyfalbarhau i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i drigolion, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir AM DDIM ddydd Mercher, 10 Chwefror i gysylltu trigolion â chyflogwyr sy'n chwilio am weithwyr.

Bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn yr achlysur ar-lein gofrestru eu manylion cyn dechrau'r achlysur, yma: www.rctcareersfair.vfairs.com

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Ffair Yrfaoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi mynd yn fwyfwy poblogaidd, gyda dros 2,100 o bobl yn bresennol yn yr achlysur a gafodd ei gynnal ym mis Chwefror 2020.

O dan yr amgylchiadau presennol, dydy hi ddim yn bosibl cynnal y Ffair Yrfaoedd yn ôl y drefn arferol. Serch hynny, y gobaith yw, trwy ddarparu Ffair Yrfaoedd Rithwir, y bydd modd i ragor o bobl gymryd rhan a gweld y cyfleoedd sydd ar gael. Eleni, bydd gan bobl y cyfle i ymgysylltu â chyflogwyr a chael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, a hynny o'u cartrefi eu hunain!

Mae'r Ffair Yrfaoedd Rithwir yn darparu amgylchedd 3D rhyngweithiol iawn gyda nifer o gwmnïau sydd â swyddi gwag, prentisiaethau a phrentisiaethau i raddedigion i'w cynnig. Bydd y Ffair Yrfaoedd Rithwir yn cynnwys nifer o weminarau wedi'u recordio ymlaen llaw a fydd yn darparu gwybodaeth a ac yn taflu goleuni ar rai o'r sefydliadau a'r cyfleoedd sydd ar gael, ynghyd â gweminarau sy'n rhoi cymorth ar sut i gwblhau ffurflen gais yn llwyddiannus ac sy'n cynnig technegau i chi eu defnyddio mewn cyfweliad.

Bydd modd i chi wneud y canlynol yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT:

  • Archwilio gwybodaeth a chyfleoedd sydd gan gyflogwyr i'w cynnig a dod o hyd i yrfa sydd orau i chi.
  • Dysgu a rhyngweithio â sefydliadau mewn perthynas â'r rolau maen nhw'n eu cynnig.
  • Manteisio ar y cyfle i ddysgu rhagor am y sefydliadau sy'n cymryd rhan gan weithwyr recriwtio.
  • Edrych ar swyddi gwag a gwneud cais am swyddi â chwmnïau gwahanol
  • Os bydd gweithiwr recriwtio yn eich dewis chi, efallai bydd yn ymgysylltu â chi ar ffurf testun un-wrth-un neu mewn sgwrs sain/fideo yn ystod y sesiwn recriwtio.

Mae yna ystod enfawr o gyflogwyr lleol a chenedlaethol eisoes wedi'u cofrestru ar gyfer yr achlysur, fel EE, yr Awyrlu Brenhinol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Willmott Dixon, Zipworld, Trafnidiaeth Cymru, Dŵr Cymru a llawer yn rhagor. Mae bwriad gan bob un ohonyn nhw recriwtio gweithwyr newydd.

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn fyw ar un diwrnod, sef dydd Mercher 10 Chwefror, rhwng 10am a 5pm. Serch hynny, bydd modd gweld yr achlysur ar gais am 30 diwrnod yn dilyn yr achlysur, tan 10 Mawrth 2021 am 23:59.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Hyd yn oed yn ystod y cyfnod ansicr yma, rwy'n falch o glywed bod y Cyngor yn arloesi wrth ddarparu'r Ffair Yrfaoedd hynod boblogaidd yma. Dyma'r tro cyntaf i Gyngor RhCT gynnal Ffair Yrfaoedd Rithwir, ac mae pawb yn gobeithio y bydd hi'n llwyddiant ysgubol.

“Mae Cyngor RhCT wedi ymrwymo i ddenu swyddi o ansawdd uchel i'r ardal leol ac i helpu ein trigolion i sicrhau swyddi cynaliadwy, dibynadwy sy'n talu'n dda. Mae'r Ffair Yrfaoedd Rithwir yn un ffordd o fynd ati i gyflawni hyn. Trwy ddod â chyflogwyr i'r cymunedau lleol, mae gan ein trigolion gyfle i ryngweithio â busnesau, darganfod galwedigaethau nad ydyn nhw efallai wedi'u hystyried, ac efallai y byddan nhw hyd yn oed yn cael cynnig cyfweliad!

“Mae eleni wedi bod yn anodd i lawer o bobl, felly mae angen mawr am gyfleoedd o ran cyflogaeth a bydd cynnal yr achlysur trwy'r dull yma'n help mawr iddyn nhw.

“Mae modd cael mynediad at y Ffair Yrfaoedd Rithwir yn fyw ar ddiwrnod yr achlysur, ond bydd gwybodaeth a gweminarau ar gael am 30 diwrnod yn dilyn yr achlysur, er mwyn i bobl brofi'r holl gyffro eto.

“Os ydych chi wrthi'n chwilio am swydd, yn ystyried newid gyrfa, eisiau dechrau ar eich gyrfa, neu'n ystyried dychwelyd i'r gwaith, byddwn yn eich annog chi i gofrestru er mwyn cymryd rhan yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT."

I gymryd rhan yn y Ffair Yrfaoedd Rithwir, sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru ymlaen llaw, yma: www.rctcareersfair.vfairs.com

Wedi ei bostio ar 13/01/2021