Mae gweithiwr Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael ei goroni’n Weithiwr y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Faner Werdd, gan guro pawb arall a gafodd enwebiad o bob cwr o’r wlad i ennill y teitl uchel ei glod.
Brent Bennett, 48 oed, yw Rheolwr Gweithrediadau a Hyfforddiant Lido Cenedlaethol Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ac mae'n aelod allweddol o garfan y Parc.
Dywedodd Mr Bennett, sy'n byw yn Abercynon gyda'i wraig Kelly, ei fod yn falch iawn o gael ei enwi'n Weithiwr y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru.
Mae Gwobrau'r Faner Werdd yn cydnabod ac yn gwobrwyo'r rheiny sy'n gweithio mewn parciau a mannau agored, gan sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n iawn ac yn diwallu anghenion y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rhaid i unigolion hefyd ddangos safonau rheoli uchel, gan annog a rhannu arferion da ar yr un pryd.
Roedd categori gwobr Gweithiwr y Flwyddyn Gwobrau'r Faner Werdd yn agored i bawb sy'n gweithio mewn safleoedd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd ledled y DU. Mae enillwyr wedi'u cyhoeddi ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Mae Parc Coffa Ynysangharad wedi ennill Gwobr y Faner Werdd am 12 mlynedd yn olynol am ei gyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, ei safonau amgylcheddol uchel a'i ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych yn Rhondda Cynon Taf. Yr elusen amgylcheddol genedlaethol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n cynnal y cynllun.
Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor y byddai'r Parc yn elwa ar raglen fawr o waith gwella, o ganlyniad i sicrhau cyllid sylweddol gan Dasglu'r Cymoedd. Mae hyn oherwydd bod y safle wedi'i ddynodi'n Safle Porth Darganfod ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae cyllid hefyd wedi dod gan Brosiect Treftadaeth ar gyfer Cymunedau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r gwaith i gyflawni'r elfennau wedi'u hariannu gan Dasglu'r Cymoedd eisoes wedi cychwyn.
Dywedodd yCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Yn ogystal â bod yn un o lawer o'n parciau prydferth, mae Parc Coffa Ynysangharad yn un o drysorau Rhondda Cynon Taf, ac mae Brent yn aelod allweddol o garfan ymroddedig Parciau'r Cyngor.
“Ers agor Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ym Mharc Coffa Ynysangharad yn 2015, mae Brent hefyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu i’w wneud yn un o’r atyniadau awyr agored gorau i ymwelwyr yng Nghymru, ac rydyn ni i gyd felly yn falch ohono.
“Mae hefyd wedi helpu i oresgyn yr heriau a ddaeth yn sgil stormydd mawr fis Chwefror 2020 pan gafodd y Parc a'r Lido eu difrodi'n sylweddol, a hynny drwy fod ar flaen y gad gyda'r gwaith glanhau ac atgyweirio yr oedd rhaid ei gynnal.
“Mae gwaith Brent wrth gefnogi Grŵp Cyfeillion Parc Coffa Ynysangharad hefyd wedi'i gydnabod yn rhan o'r wobr, yn ogystal â'i waith wrth gyflwyno cyfleoedd i archwilio bioamrywiaeth yn ein Parc arobryn.
“Ar ran pawb sy’n gysylltiedig â Pharc Coffa Ynysangharad a Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, rwy’n llongyfarch Brent ar ddod yn Weithiwr y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Faner Werdd - enillydd teilwng iawn.”
Cafodd Brent, sydd â dwy ferch hŷn o'r enw Lauren ac Alicia, ei gydnabod hefyd am ei waith o ddydd i ddydd wrth feithrin perthynas dda rhwng y Cyngor ac ystod eang o ymwelwyr â’r Parc a'r Lido, a lle bo hynny'n bosibl, gweithio ar y cyd â nhw i wella eu profiadau.
Dechreuodd ei yrfa gyda'r Awdurdod Lleol yn 16 oed yn 1988 yn achubwr bywyd achlysurol yn y pwll nofio ym Mharc Coffa Ynysangharad, gan weithio yn adran Hamdden y Cyngor.
Aeth Brent ymlaen i weithio ym Mhwll Nofio'r Ddraenen Wen ac yna Canolfan Chwaraeon Abercynon, gan ddod yn rheolwr ar ddyletswydd. Symudodd i fod yn rheolwr Pwll Nofio Aberdâr yn 2004, gan dreulio cyfnod byr yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach cyn dychwelyd i Ganolfan Chwaraeon Abercynon yn 2009.
Yn 2016, daeth ei yrfa ag ef yn ôl i Barc Coffa Ynysangharad, gan weithio yn y Parc ac yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
DywedoddBrent Bennett, Gweithiwr y Flwyddyn Gwobrau'r Faner Werdd: “Mae'n fraint anhygoel i mi dderbyn y wobr yma sy'n cydnabod holl waith caled y garfan ym Mharc Coffa Ynysangharad a Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ar ôl y difrod ofnadwy a gafodd ei achosi gan Storm Dennis.
“Roedd llawer o ardaloedd yn y parc a brofodd ddifrod mawr o ganlyniad i'r storm, gan gynnwys y Lido a llawer o’r adeiladau allanol lle'r oedd y Grŵp Cyfeillion yn cwrdd. Erbyn hyn maen nhw wedi'u trawsnewid.
“Hoffwn i estyn fy niolch i reolwr ardal ar ddyletswydd y Cyngor, Dean Morgan-Jones, ein Carfan Ceidwaid, rheolwr y meysydd chwarae Adam Kettley a'i garfan am eu holl waith caled wrth adfer y lleoedd arbennig yma i'w cyflwr gwreiddiol. Mae wedi bod yn frwydr hir, ond mae'n holl waith caled yn dwyn ffrwyth o'r diwedd.”
Cafodd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ei ddatblygu yn sgil prosiect adnewyddu Gradd II Cyngor Rhondda Cynon Taf gwerth £6.3 miliwn, o ganlyniad i gefnogaeth ariannol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw.
Er iddo brofi difrod sylweddol yn ystod Storm Dennis yn gynnar yn 2020, mae gwaith helaeth yn cael ei gynnal i adfer yr atyniad dŵr awyr agored a’r parc antur arobryn yma i’w cyflwr gogoneddus gwreiddiol yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad.
Cafodd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ei agor yn swyddogol gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a'i Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw yn 2016. Mae'r atyniad bellach ar gau. Yn ystod ei dymor agoriadol, denodd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, dros 24,000 o ymwelwyr.
Ar hyn o bryd mae rhaglen wella sylweddol ar waith ym Mharc Coffa Ynysangharad, wedi i'r atyniad sicrhau cyfanswm o werth £1.9 miliwn o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniadau pellach gan y Cyngor.
Ar hyn o bryd, mae gwaith gwella'r llwybrau a'r goleuadau yn y Parc yn cael ei gynnal, ynghyd â darparu cyfleuster newid yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, pan fydd yn ailagor. Bydd hyn yn tarfu rhywfaint ar y rheiny sy'n ymweld â'r Parc. Mae'r gwaith yma'n rhan o Raglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 18/01/21