Skip to main content

Blwyddyn Newydd WYCH wrth i ni dorri recordiau ailgylchu!

Bryn Pica Recycling-37

Mae'n ddechrau GWYCH i'r Flwyddyn Newydd wrth i Gyngor Rhondda Cynon Taf longyfarch ei drigolion ar ei ffigurau ailgylchu gorau ERIOED dros gyfnod y Nadolig! 

Trigolion Rhondda Cynon Taf yw rhai o'r rhai gorau yng Nghymru. Rydych chi wedi cael Nadolig gwyrdd iawn wrth i ragor o drigolion ymuno â'r frwydr yn erbyn gwastraff!

Mae carfan Gofal y Strydoedd WYCH y Cyngor wedi gweithio trwy gydol yr ŵyl ac mae wedi bod allan ym mhob tywydd yn casglu'r symiau enfawr o ddeunydd ailgylchu y mae trigolion wedi bod yn ei roi allan. Fe wnaethon nhw gasglu dros 450 tunnell mewn un diwrnod ar ôl i rai trigolion osod dros 50 o fagiau i'w casglu!

Mae'r garfan wedi casglu bron i ddwbl y swm arferol o ddeunydd ailgylchu sych a gwastraff bwyd dros bythefnos yr ŵyl. Cafodd 500 tunnell ychwanegol eu casglu eleni – mae hyn yn torri'r holl recordiau ailgylchu blaenorol dros gyfnod y Nadolig yn Rhondda Cynon Taf!

Mae'r criwiau casglu sbwriel a gwastraff ailgylchu gwych yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn dal ati trwy gydol y pandemig ac fe wnaethon nhw barhau i weithio'n galed dros gyfnod y Nadolig.  Fe wnaethon nhw ymateb i'r her drwy gasglu'r holl wastraff ychwanegol a pharhau i wneud eu casgliadau arferol ym mis Ionawr!

Casglwyd dros 2770 tunnell o ddeunydd ailgylchu. Roedd hyn yn cynnwys dros 403 tunnell o wastraff bwyd – dyna 692 o gerbydau sbwriel LLAWN (4 tunnell).

Mae'r Cyngor yn gofyn i'w holl drigolion gadw ati â'r gwaith GWYCH yma yn y Flwyddyn Newydd a thu hwnt, a hynny er mwyn helpu Rhondda Cynon Taf i dorri recordiau ailgylchu eto. Mae ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf mor hawdd – mae'n adduned Blwyddyn Newydd rydych chi'n sicr o gadw ati!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Hoffwn ddiolch i'n criwiau gwych am eu holl waith – gweithio dros gyfnod y Nadolig, mynd allan ym mhob tywydd a chodi pan fo rhai pobl yn dal i gysgu i sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei gasglu. Mae'r garfan ymroddedig wedi parhau i weithio trwy gydol y pandemig ac wedi gwneud gwaith gwych – parhaodd eu hymdrechion GWYCH drwy gydol cyfnod y Nadolig.

“Hoffwn hefyd ddweud da iawn i holl drigolion RhCT am eu hymdrechion ailgylchu gwych, am barhau i ailgylchu trwy gydol y pandemig yma er gwaethaf yr heriau digynsail, ac am barhau dros gyfnod y Nadolig. Mae eu hymdrechion wedi bod yn rhagorol.

“Mae'n anhygoel gweld ein recordiau ailgylchu yn cael eu torri. Mae hyn yn dangos yr ymroddiad a'r ymrwymiad sydd gan ein trigolion i ailgylchu ac i ofalu am yr amgylchedd. Os ydyn ni'n parhau yn yr un modd, byddwn yn taro targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ymhell cyn 2024/25 - da iawn RhCT!

“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb. Rydyn ni'n cynnig system archebu bagiau ailgylchu ar-lein, gwasanaeth dosbarthu, a system bag clir hawdd ar gyfer eitemau sych. Mae ein holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd."

Mae modd cael bagiau ailgylchu mewn nifer o siopau allweddol neu mae modd archebu rhai i gyrraedd eich cartref ar www.rctcbc.gov.uk/bagiau. Mae casgliadau o ymyl y ffordd wedi parhau drwy'r pandemig. Os oes oedi am ryw reswm, rydyn ni'n cynghori trigolion i adael eu heitemau wrth y man casglu a byddan nhw'n cael eu casglu cyn gynted ag y bo modd.

Mae'n bosibl y bydd llawer o drigolion yn cael sesiwn glirio ar ôl y Nadolig ac efallai y byddan nhw'n dod o hyd i eitemau y mae angen iddyn nhw gael gwared arnyn nhw. SERCH HYNNY, os nad oes modd ailgylchu'r eitemau yma yn rhan o gasgliadau wrth ymyl y ffordd, ewch â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf.

Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 5.30pm, a chaiff pobl sy'n dod mewn faniau/ceir ag ôl-gerbydau hefyd gael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith am gyfnod arall. Mae rhagor o fanylion ar https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu. Ar hyn o bryd, mae'r ddwy siop ailddefnyddio (‘ Y Sied’) sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfannau Ailgylchu Treherbert a Llantrisant ar gau o dan Gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 Llywodraeth Cymru.

Dylech chi roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bag du. Os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylid rhoi'r bag du â'r eitemau yma mewn bag arall a'i roi allan ar ôl 72 awr.

Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu. 

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.

Er mwyn dysgu rhagor am frwydr ailgylchu Cymru, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau, ar arwyddion a'r cyfryngau cymdeithasol neu ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #AilgylchwyrGwych

Wedi ei bostio ar 14/01/21