Skip to main content

Adnewyddu trwyddedau ar gyfer y rhai sy'n byw o fewn parth parcio preswyl

renew-WELSH-2020

Mae'r Cyngor yn atgoffa'r bobl hynny sy'n byw o fewn parth parcio preswyl bod angen adnewyddu eu trwyddedau blynyddol erbyn 31 Mawrth – ac mae modd iddyn nhw gwblhau'r broses yma cyn y dyddiad cau.

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn mynd ati i adnewyddu dros 3,000 o Drwyddedau Parcio i Breswylwyr ar hyd Rhondda Cynon Taf. Mae'r trwyddedau presennol yn ddilys ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2021. Mae angen eu hadnewyddu er mwyn eu defnyddio ar ôl 1 Ebrill 2021.

Mewn ardaloedd lle byddai cerbydau pobl eraill yn ei gwneud hi'n anodd i breswylwyr barcio yno, mae parthau parcio i breswylwyr mewn mannau dynodedig yn mynd i'r afael â hyn. Mae rhestr lawn o barthau parcio RhCT ar wefan y Cyngor.

Bob blwyddyn, gan fod nifer o drwyddedau angen cael eu hadnewyddu ar hyd y Fwrdeistref Sirol, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion wneud cais cyn gynted ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod y trwyddedau'n cael eu dychwelyd mewn pryd.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i adnewyddu trwydded barcio yw drwy wefan y Cyngor - www.rctcbc.gov.uk/AdnewydduTrwyddedParcio. Mae modd i'r broses gyfan, gan gynnwys gwneud taliad, gael ei chwblhau drwy'r wefan.

Fel arall, mae modd i breswylwyr ofyn am ffurflen gais ar bapur trwy e-bostio GwasanaethauParcio@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 21/01/2021