Skip to main content

Dirwy a chostau yn cael eu rhoi i un o drigolion Glynrhedynog am droseddau tipio anghyfreithlon

Still image - fly tipping

Mae unigolyn o Lynrhedynog wedi gorfod talu dros £1,700 o gostau ar ôl cael ei dal yn tipio'n anghyfreithlon. O ganlyniad i dystiolaeth CCTV y Cyngor a gafodd ei ddarparu i'r llys, cafodd y fenyw dan sylw ei dal yn tipio'n anghyfreithlon yn yr un lleoliad ar chwe achlysur gwahanol.

Ymddangosodd y diffynnydd yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher, 21 Ebrill, i wynebu honiadau o droseddau tipio anghyfreithlon a ddigwyddodd y llynedd. 

Ar 20 Ebrill, 2020, fe wnaeth swyddogion gorfodi’r Cyngor ddarganfod 25 bag o wastraff wedi’u gadael mewn lleoliad yng Nglynrhedynog. Ar ôl archwilio'r gwastraff, daeth y swyddogion o hyd i dystiolaeth a oedd yn dangos i bwy roedd un o’r bagiau yn perthyn. 

Ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod tipio anghyfreithlon yn dod yn broblem yn y lleoliad yma ar ddechrau'r pandemig, defnyddiodd y Cyngor gamera cudd yno. Fe wnaeth y CCTV ddal menyw yn gadael saith bag o wastraff ar bum achlysur arall - ar 1 Mai, 3 Mai, 6 Mai, 8 Mai a 12 Mai 2020.

Cysylltodd swyddogion gorfodi'r Cyngor â hi ar ôl ei hadnabod drwy chwilio am rif ei char yng nghofnodion y DVLA. 

Cafodd ei chyfweld o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, pan gyfaddefodd i dipio’r gwastraff yn anghyffreithlon ar bob un o’r chwe achlysur. Dewisodd y Cyngor ei herlyn o dan Adran 33(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, gan arwain at yr achos llys ar 21 Ebrill 2021.

Yn y llys, cafodd y preswylydd o Lynrhedynog ddirwy o £320 am y troseddau ar 20 Ebrill, 3 Mai a 12 Mai. Gorchmynnwyd iddi hefyd dalu gwerth £650 o gostau a gordal dioddefwyr o £96, gan arwain at gyfanswm o £1,706. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r Cyngor yn falch gyda chanlyniad yr achos llys. Mae'n atgyfnerthu'n glir bod tipio anghyfreithlon yn annerbyniol. Mae'n niweidio'r yr amgylchedd o'n cwmpas ac yn effeithio ar iechyd pobl. Mae'n gostus i'w glirio, ac mae'r costau mae'r diffynnydd bellach yn gorfod eu talu yn cynnwys hynny a'r gost o ymchwilio i'r mater.

“Mae’r achos yma hefyd yn dangos bydd y Cyngor yn ymchwilio’n llawn i ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon a throseddau gwastraff eraill, ac mae modd i hynny arwain at erlyn y bobl sy'n gyfrifol." 

Wedi ei bostio ar 30/04/2021