Taith ysgol gynradd leol o Fferm Solar newydd Coed-elái mewn cydweithrediad â rhaglen Arwyr Eco Rhondda Cynon Taf.
Camodd 20 o blant o Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail allan o'u dosbarthiadau ac i mewn i ddiwrnod o ynni adnewyddadwy, gan gymryd rhan mewn taith i'r fferm solar drawiadol sydd â 9,400 o baneli ac mewn sesiwn ryngweithiol gyda Rhaglen Arwyr Eco Rhondda Cynon Taf.
Dysgodd y disgyblion am gynhyrchu ynni adnewyddadwy a gweld drostyn nhw eu hunain sut roedd y fferm solar yn cynhyrchu 6MW o drydan, gyda 1MW ohono'n cael ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedd y garfan o Vital Energi a RhCT yno i helpu plant i ddeall sut y bydd y gosodiad yn sicrhau gostyngiad o 7,300 o dunelli yn yr allyriadau carbon, a pham mae hynny'n bwysig i'r hinsawdd a'r blaned.
Mae Lisa Martin, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol a Gofal i Gwsmeriaid Vital Energi, yn esbonio mai “Cenhadaeth graidd Vital Energi yw amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, felly mae achlysur fel yr un yma’n dangos pwysigrwydd prosiectau fel Fferm Solar Coed-elái o ran dod â phlant ar daith gyda ni i feithrin ymwybyddiaeth, gwella eu dealltwriaeth ac ysbrydoli camau gweithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”
Yn ogystal â’r daith, mynychodd y disgyblion Weithdy Arwyr Eco Cyngor RhCT, a oedd yn cynnwys creu eu harwyr ynni adnewyddadwy eu hunain, gan addysgu plant am fanteision ac anfanteision gwahanol ffynonellau ynni adnewyddadwy ac ynni anadnewyddadwy, wrth hefyd drafod pa ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ein bywydau bob dydd. Ar ddiwedd y gweithdy, cafodd y disgyblion dystysgrif sy’n nodi eu bod nhw bellach yn Arwyr Eco swyddogol.
Meddai’r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Hinsawdd: “Rydyn ni’n hynod falch o’r prosiect yma a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar yr amgylchedd, ein hallyriadau carbon a chynaliadwyedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae wedi bod yn wych cydweithio â Vital Energi Utilities, mynd â phlant ysgol leol o amgylch y fferm solar a’u helpu i ddysgu rhagor am sut mae’r dechnoleg adnewyddadwy yn gweithio a pham mae hi’n bwysig ein bod ni’n gofalu am y blaned.”
Yr ymweliad ysgol yw’r fenter gwerth cymdeithasol ddiweddaraf yn rhan o’r prosiect sydd â’r bwriad o wneud yn fawr o wariant economaidd lleol, cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi elusennau lleol i sicrhau gwaddol parhaus.
Mae Lisa Martin yn dod i gasgliad trwy ddweud, “Rydyn ni hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â menter gymdeithasol Coalfield Flower Farm yn lleol, a rhoi arian iddi, gan feithrin dealltwriaeth wirioneddol ohoni a’r effaith y mae ei gwaith yn ei chael ar iechyd meddwl a lles yn y gymuned.”
Wedi ei bostio ar 14/07/2025