Skip to main content

Cynllun gwella cwlferi lleol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar y gweill

Dan y Cribyn - Copy

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun lliniaru llifogydd yn ystad dai Dan-y-Cribyn er mwyn cyflawni buddsoddiad sylweddol i'r gymuned.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflawni dros ddau gam gwaith, gan gwmpasu ardal gyfan yr ystad dai, a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod mis Awst 2025.

Bydd y cynllun yn cynnwys cynnal gwaith ail-leinio cwlferi ar hyd y rhwydwaith cwrs dŵr cyffredin.

Mae'n dilyn adolygiad o'r arolygon asedau a gafodd eu cynnal yn yr ardal, a bwriad y gwaith yw lleihau perygl llifogydd i sawl cwrs dŵr cyffredin a'u rhwydwaith cwlferi cysylltiedig.

Mae'r Cyngor wedi penodi Arch Utilities Services yn brif gontractwr i gyflawni'r gwaith, a does dim disgwyl y bydd fawr o darfu ar y gymuned o ddydd i ddydd.

Serch hynny, erbyn diwedd y gwaith, bydd angen cau Hen Ffordd y Plwyf yn ystod y dydd (9am tan 4pm) – o ddydd Llun, 4 Awst am hyd at bythefnos. Bydd mynediad i eiddo ar gael yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau, ond ni fydd mynediad i gerddwyr na'r gwasanaethau brys.

Mae'r ddau gam gwaith yn cynrychioli buddsoddiad o bron i £600,000 i wella gwydnwch rhag llifogydd yn lleol.

Mae cyllid wedi'i sicrhau o raglenni Grant Gwaith ar Raddfa Fach Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru i gyflawni'r ddau gam gwaith.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/07/2025