Skip to main content

Gwaith pwysig ar arglawdd a wal yn Ynys-y-bwl

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd cyfres o waith yn cael ei wneud yn Nheras Clydach yn Ynysybwl yn fuan, a fydd angen cynllun rheoli traffig er mwyn sicrhau diogelwch.

Bydd y cynllun yn cynnwys adeiladu rhan ychwanegol o wal ar hyd y llwybr troed uchel, ymgymryd â gwaith i gynyddu uchder yr arglawdd uwchben y briffordd, a chynnal atgyweiriadau unigol i wal y briffordd.

Mae'r contractwyr Hammond ECS Ltd a Calibre Contracting Ltd wedi'u penodi i gyflawni'r ystod o waith ar ran y Cyngor.

Mae disgwyl y bydd y cynllun yn para tua phum wythnos i gyd, gan ddechrau o ddydd Mercher, 23 Gorffennaf.

Bydd goleuadau traffig dwyffordd dros dro ar waith ar hyd Teras Clydach yn ystod oriau dydd, gan ddychwelyd i hyd byrrach dros nos – a bydd mesurau ar waith hefyd i reoli mynediad i gerddwyr. Mae'n debygol y bydd argaeledd parcio ar y stryd hefyd yn cael ei effeithio yn ystod cyfnod y gwaith.

Mae trigolion sy'n byw ger lleoliad y gwaith wedi derbyn llythyr gan y Cyngor i esbonio'r cynllun a'r trefniadau yn fanylach.

Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r contractwyr y mae wedi'u penodi i leihau aflonyddwch i drigolion.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 21/07/2025