Skip to main content

Ymwelwyr yn heidio i Lido Ponty ar ddechrau'r prif dymor

lido  people 2

Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn boblogaidd iawn unwaith yn rhagor eleni! Ac yntau'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru, mae'r atyniad awyr agored trawiadol yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad yn parhau i ddenu miloedd o ymwelwyr, gan gadarnhau ei le yn un o leoliadau hamdden mwyaf blaenllaw Cymru.

Er bod y tymor wedi dechrau'n hwyrach na'r arfer, mae dros 47,000 o ymwelwyr wedi mwynhau'r profiad unigryw o nofio mewn pyllau awyr agored wedi'u cynhesu, gwibio ar hyd y sleidiau, neu ymlacio yn yr heulwen yn Lido Ponty, sy’n adeilad rhestredig Gradd II hardd sydd wedi'i adnewyddu.

Gyda nofiadau bore bach, sesiynau hwyliog llawn, a hyd yn oed dipiau mewn dŵr oer yn ystod y misoedd oerach, mae'n meddwl rhywbeth i bawb.

Dyw ei boblogrwydd ddim yn ddibynnol ar y tywydd ond wedi dweud hynny, mae'r cyfnod heulog diweddar wedi bod yn help mawr! Mae llwyddiant y Lido yn adlewyrchu cyfuniad llwyddiannus o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd ac apêl ehangach siopau a chaffis canol tref Pontypridd, gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â chanol y dref.

Rhwng mis Ionawr a mis Mehefin eleni, roedd nifer yr ymwelwyr â chanol tref Pontypridd wedi cynyddu, gan groesawu dros 1.4 miliwn o ymwelwyr - cynnydd o 36.6% o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Dyma hwb enfawr sy'n mynd yn groes i'r duedd genedlaethol.

Mae'r buddsoddiadau gweledol yma yn y dref wedi’u cefnogi y tu ôl i'r llenni gan becyn cymorth i fusnesau sydd ar gael i fusnesau cymwys yn Rhondda Cynon Taf, gan ddarparu £500 ychwanegol oddi ar ardrethi busnesau sy'n gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi 40% yn rhan o gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod modd i sawl busnes ar y stryd fawr elwa ar ardrethi sy’n sylweddol is neu hyd yn oed ddim ardrethi busnes o ganlyniad.

Dywedodd Simon Gale, Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygiad Cyngor Rhondda Cynon Taf:  "Mae Lido Ponty yn arbennig iawn - nid yn unig i Bontypridd ond i Gymru gyfan. Dyma'r unig un o'i fath, ac mae pobl yn teithio o bob cwr i'w fwynhau. Mae nifer yr ymwelwyr yn dangos cymaint mae pobl yn gweld gwerth yn yr hyn sydd gyda ni yma. Mae'n wych ei weld yn mynd o nerth i nerth."

Os ydych chi'n berchen ar fusnes a hoffech chi wirio a ydych chi’n gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi busnes gwerth £500, rhaid i chi fodloni'r meini prawf ac ymgeisio am gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru.

Bwriwch olwg ar restr lawn o fusnesau cymwys a meini prawf cymhwysedd yma.

Wedi ei bostio ar 17/07/2025