Nodwch – bydd gwaith gosod wyneb newydd ar gylchfan Nant Dowlais ar Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys yn cael ei gynnal dros gyfnod o dair noson o ddydd Sul – felly bydd angen cau ffyrdd dros dro.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 7pm a 4am ar bob un o'r tair noson, gan ddechrau o 7pm ddydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth (20-22 Gorffennaf). Felly, bydd yr holl waith wedi'i gwblhau erbyn 4am ddydd Mercher, 23 Gorffennaf.
Bydd y gylchfan yn y llun ar gau, ynghyd â'r rhannau cyfagos o ffordd oddi arni – fel yr amlinellir ar y map canlynol.
Dyma’r llwybr amgen yn ystod cyfnod cau’r A473 Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys: cylchfan yr A473 Gwaun Meisgyn, y B4595 Ffordd Llantrisant, Yr Heol Fawr, Heol yr Orsaf a chylchfan yr A473 Nant Celyn. Mae modd gweld y llwybr yma ar y map uchod hefyd.
Mae'r gwaith gosod wyneb newydd yn cael ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd 2025/26 y Cyngor – sydd wedi clustnodi £7.5 miliwn i gynnal a chadw ffyrdd a llwybrau troed, a’u gwella, yn ystod y flwyddyn yma.
Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond fydd dim mynediad ar gael i gerddwyr nac ar gyfer cyrraedd eiddo.
Nodwch – bydd gwaith ar wahân i osod wyneb newydd ar gylchfan gyfagos yr A473 Gwaun Meisgyn yn dilyn yn ddiweddarach yr wythnos nesaf – bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law.
Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 18/07/2025