Mae’n bosibl y bydd trigolion Treorci yn sylwi ar y gwaith sy’n cael ei gychwyn yr wythnos nesaf, yn rhan o waith datblygu’r Cynllun Lliniaru Llifogydd pwysig ar gyfer Treorci.
Bydd y rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd yn buddsoddi mewn rhagor o fesurau lliniaru llifogydd ar gyfer y gymuned – a hynny er mwyn gwella seilwaith lleol a chynyddu lefel y diogelwch rhag llifogydd.
Mae rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r cynllun wedi'i gynnwys yn yr eitem newyddion isod o fis Medi 2024, sy’n cynnwys manylion am y cyllid gwerth £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i sicrhau er mwyn datblygu'r prosiect ymhellach.
O ddydd Llun, 14 Gorffennaf, bydd arolygon topograffig yn cael eu cynnal yn y gymuned yn rhan o'r cam Dylunio a Datblygu sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Mae'r Cyngor wedi penodi John Vincent Surveys Ltd yn gontractwr i gyflawni’r gwaith casglu gwybodaeth yma. Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yma’n tarfu ar y gymuned.
Bydd yr arolygon yma’n cael eu cynnal mewn sawl stryd yn Nhreorci - gan gynnwys y Stryd Fawr, Stryd y Golofn, Heol Glyncoli, Stryd Dumfries, Stryd Luton, Stryd Stuart, Ffordd y Fynwent, Stryd Biwt, Stryd Caerdydd, Stryd Herbert, Stryd Howard, Stryd Senghenydd, Stryd Horeb, Stryd y Capel a Chlos Glyncoli.
Bydd y contractwr yn gweithio yn y gymuned am nifer o wythnosau er mwyn cwblhau’r gwaith yma.
Bydd arolygon TCC ac arolygon drôn yn cael eu cynnal hefyd yn y dyfodol, er mwyn parhau â'r gwaith i lywio'r cam yma.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/07/2025