Skip to main content

Darparu gwydnwch rhag llifogydd ar gyfer cymunedau trwy gyllid pwysig

Flood graphic CYM (2)

Mae gwaith yn parhau’n gyflym i gyflawni mesurau lliniaru llifogydd pellach ar draws cymunedau Rhondda Cynon Taf, trwy fuddsoddiad ar y cyd gwerth £6 miliwn â Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, 2025/26.

Mae hyn yn ychwanegol at y buddsoddiad gwerth dros £30 miliwn sydd wedi helpu i wella cwlferi a seilwaith draenio arall ers Storm Dennis yn 2020. Yn ystod y cyfnod yma, mae atgyweiriadau a gwelliannau gwerth tua £70 miliwn hefyd wedi'u gwneud i strwythurau fel pontydd, waliau a chwlferi, a gafodd eu difrodi mewn stormydd.

Mae'n bwysig nodi, er bod y Cyngor yn cydweithio ag awdurdodau rheoli risg eraill, mai'r Awdurdod Lleol yw'r awdurdod rheoli risg cyfrifol ar gyfer llifogydd priffyrdd, llifogydd dŵr wyneb, llifogydd cwrs dŵr cyffredin a llifogydd dŵr daear - sy'n cael eu dosbarthu’n ffynonellau lleol. Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am lifogydd carthffosydd, a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am lifogydd afonydd. Hoffen ni roi sicrwydd i drigolion bod y Cyngor yn parhau i lobïo Cyfoeth Naturiol Cymru i wella amddiffynfeydd llifogydd afonydd presennol, yn enwedig mewn lleoliadau allweddol sydd â hanes diweddar o lifogydd.

Mae gwaith i gyflawni mesurau lliniaru llifogydd ar gyfer ffynonellau risg lleol yn parhau drwy gydol yr haf, gan fanteisio ar y tywydd gwell.

Er enghraifft, dechreuodd gwaith yn ystod yr wythnosau diwethaf ar gynllun gwydnwch rhag llifogydd yn Heol Turberville (Ynys-hir), yn ogystal â gwaith trwsio wal yr afon oddi ar yr A4058 (Porth), gwaith draenio lleol oddi ar Heol Penrhys (Ystrad), a gwelliannau i gwlferi ar ystad Dan y Cribyn (Ynys-y-bwl). Dechreuodd cynllun draenio priffyrdd pwysig ar y B4278 Heol Gilfach yn Nhonyrefail ym mis Mehefin 2025 hefyd, gan ganolbwyntio ar ran 200 metr o'r ffordd yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Un o flaenoriaethau pennaf y Cyngor yw cyflawni mesurau lliniaru llifogydd pellach yn ein cymunedau, mewn ymateb i’r bygythiad o stormydd amlach a dwysach o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Mae dros £6 miliwn wedi'i sicrhau ar draws tair rhaglen ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn bresennol, ac rydyn ni'n gwneud cynnydd pwysig yn ystod yr haf eleni i gyflawni prosiectau ar lawr gwlad. Ers 2020, rydyn ni wedi gwario dros £100 miliwn i wella gwydnwch rhag llifogydd ac atgyweirio difrod sydd wedi’i achosi gan lifogydd.

“Mae tystiolaeth hyd yn hyn yn awgrymu bod ein buddsoddiad dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys cyflawni dros 100 o gynlluniau lleol, yn gweithio. Cafwyd dros 105mm o law mewn cyfnod cymharol fyr yn ystod y storm fawr ddiweddaraf ar 23 Chwefror 2025, ac yn ystod y storm yma, gweithiodd asedau sy'n cael eu cynnal a’u cadw gan y Cyngor yn dda. Roedden ni hefyd yn gallu defnyddio adnoddau'n gynnar diolch i rybuddion cynnar gan y Swyddfa Dywydd, dyma rywbeth rydyn ni wedi bod yn pwyso'n gryf amdano.

“Gall trigolion fod yn sicr y bydd ein buddsoddiad yn y maes yma'n parhau – o geisio cyllid newydd i ddatblygu a chyflawni cynlluniau wedi’u targedu.”

Wedi ei bostio ar 16/07/2025