Mae'r holl waith sy'n gysylltiedig â dymchwel hen adeiladau'r neuadd bingo a chlwb nos Angharad's ym Mhontypridd wedi'i gwblhau. Mae hyn yn golygu bod y lôn sengl ar yr A4058, Heol Sardis a oedd ar gau bellach ar agor eto.
Dechreuodd contractwr penodedig y Cyngor, sef Walters Ltd, y gwaith sylweddol i ddymchwel yr adeiladau ym mis Mawrth 2021 er mwyn galluogi ailddatblygu'r safle mawr yng nghanol y dref yn y dyfodol. Daeth cyfraniad sylweddol i gwblhau'r gwaith gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Bydd trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr â chanol tref Pontypridd wedi sylwi ar y cynnydd ar y safle dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, wrth i'r adeiladau gael eu dymchwel yn raddol i lefel y stryd. Cafodd y broses yma ei chwblhau'n swyddogol Ddydd Gwener, Awst 27, gan olygu bod llif y traffig fel yr oedd cyn y gwaith, wrth i'r lôn tua'r de ar yr A4058 agor unwaith eto.
Yn dilyn y gwaith yma, mae contractwr y Cyngor yn y broses o adael y safle. Mae mesurau draenio dros dro ar waith ar y safle yn ogystal â wal dros dro o amgylch y safle er diogelwch. Bydd yr ardal yn cael ei monitro'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei chyflwr presennol.
Mae'r Cyngor yn parhau i archwilio nifer o opsiynau o ran defnydd y safle yn y dyfodol. Fel sydd eisoes wedi'i gyhoeddi, mae gwaith ymgysylltu'n mynd rhagddo gyda chwmnïau gwestai i ganfod a oes cyfle i ddarparu gwesty o ansawdd uchel yn rhan o'r gwaith ailddatblygu, a hynny er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr i ganol y dref, a ddylai yn ei dro gynyddu gwariant yno hefyd. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gydag ymgynghorydd masnachol a dylunwyr trefol i archwilio pa gyfleoedd neu opsiynau amgen sy'n bosibl ar y safle.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Gyda gwaith dymchwel safle'r hen neuadd bingo ym Mhontypridd bellach wedi’i gwblhau, dyma gam pwysig i'r Cyngor o ran ei ddyhead i ailddatblygu’r safle strategol er mwyn iddo gael ei ddefnyddio eto ers blynyddoedd lawer er budd ymwelwyr, busnesau a thrigolion.
“Mae'r prosiect yn rhan annatod o waith adfywio cyffrous Pontypridd, ochr yn ochr â nifer o ailddatblygiadau allweddol fel Llys Cadwyn, gwaith adfywio YMCA Pontypridd, a’r buddsoddiad o £4.5 miliwn yng Nghanolfan Gelf y Miwni ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Yn debyg i Lys Cadwyn, nod y prosiectau yma yw dod â bywyd newydd i safleoedd allweddol, cynnig gwasanaethau gwerthfawr i'r gymuned a denu ymwelwyr newydd i ganol y dref.
“Mae'r Cyngor yn parhau i archwilio sawl opsiwn ar gyfer dyfodol y safle er mwyn cyflwyno prosiect cyffrous y mae modd ei gyflawni. Bydd unrhyw opsiynau llwyddiannus yn cael eu rhannu â rhanddeiliaid, busnesau a thrigolion maes o law, a bydd ymgynghoriad llawn yn cael ei gynnal mewn perthynas ag unrhyw gais cynllunio yn y dyfodol.
“Gyda’r cam dymchwel bellach wedi’i gwblhau, rwy’n falch bod modd tynnu'r goleuadau traffig dros dro ar Heol Sardis ger y safle oddi yno. Roedd y trefniant angenrheidiol yma wedi'i roi ar waith fel bod modd cynnal y gwaith yn ddiogel, felly dyma ddiolch i drigolion a chymudwyr am eu cydweithrediad.”
Wedi ei bostio ar 27/08/2021