Mae perchnogion cŵn yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hatgoffa i ymddwyn yn gyfrifol a glanhau ar ôl eu cŵn.
Mae'r Cyngor wedi derbyn nifer o gwynion am faw cŵn ar ei strydoedd, llwybrau a chaeau chwaraeon. Mae hyn yn hyll ac mae modd iddo hefyd arwain at broblemau iechyd difrifol pan mae adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) eisoes dan bwysau.
Mae mwyafrif y perchnogion cŵn ledled y Fwrdeistref Sirol yn gyfrifol, ond mae rhai yn gadael y baw ar eu hôl i eraill sathru ynddo – neu’n waeth na hynny – tra eu bod nhw allan yn gwneud eu hymarfer corff dyddiol.
Dyma atgoffa perchnogion does ganddyn nhw ddim hawl i fynd â'u cŵn ar gaeau chwaraeon, boed hynny ar dennyn ai peidio. Mae llawer o'r ardaloedd yma bellach yn cael eu defnyddio gan bobl i gynnal eu hymarferion awyr agored dyddiol.
Mae carfan Gofal y Strydoedd benodol y Cyngor yn dal i batrolio ardaloedd a byddan nhw'n rhoi hysbysiadau gorfodi lle bo angen – ond rydyn ni'n galw ar drigolion i helpu lle bo modd, trwy lanhau ar ôl eu cŵn – Yn y bag, Yn y Bin!
Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn adroddiadau bod lleiafrif bach o bobl yn gollwng / gadael sbwriel ac rydyn ni'n gofyn i drigolion garu lle maen nhw'n byw a sicrhau bod ein lleoedd agored yn parhau i fod yn ddiogel ac yn bleserus i bawb. Os cewch eich dal yn taflu sbwriel, mae modd i chi wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.
Mae'r Cyngor hefyd yn derbyn adroddiadau bod perchnogion cŵn yn gadael eu bagiau baw cŵn yn hongian ar finiau, gan wneud iddyn nhw ymddangos yn llawn. Mae hyn am fod y perchnogion ddim eisiau cyffwrdd â'r dolenni bin gwastraff cŵn – lle bo hyn yn wir rydyn ni'n gofyn eich bod, lle bo hynny'n bosibl, yn mynd â'ch bagiau adref ac yn eu gwaredu yn eich gwastraff bag du / bin olwynion eich hun. Cofiwch olchi eich dwylo wedi i chi wneud hynny.
Wedi ei bostio ar 03/02/2021