Heddiw mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen Profi yn y Gymuned yn cychwyn ar draws ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o ddydd Mercher, 3 Mawrth.
Bydd y rhaglen yn gweithredu ar draws chwe Chanolfan Allgymorth Profi Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf gan ganolbwyntio ar fannau lle mae lefelau uchel parhaus o heintiau COVID-19. Bydd y Canolfannau yma yn:
- Canolfan y Gymuned Maes-yr-haf, Trealaw
- Plaza'r Porth
- Canolfan y Gymuned, Llanhari
- Canolfan Oriau Dydd y Gilfach-goch
- Canolfan Hamdden Rhondda Fach
- Canolfan Cymuned Abercynon
Rydyn ni'n annog trigolion dros 11 oed ym mhob un o'r ardaloedd lleol hynny syddheb symptomau COVID-19 i gael prawf am ddim yn eu canolfan leol yn ystod y cyfnodau profi. Does dim angen cadw lle. Mae'r Cyngor hefyd yn annog pob busnes lle does dim modd i'w staff weithio gartref - yn enwedig y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyswllt agos (fel gyrwyr bysiau neu dacsi, gweithwyr manwerthu bwyd neu'r rheini yn y diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu) i annog ei weithwyr i gael prawf i amddiffyn eu cydweithwyr a'u teuluoedd.
Mae pob un o'r ardaloedd uchod wedi dangos cyfraddau uchel o haint COVID-19. Mae'r rhaglen Profi Gymunedol wedi'i hanelu at nodi'r trigolion hynny a allai fod â COVID-19 ond sydd heb unrhyw symptomau. Mae'r dull yma'n allweddol i helpu i atal lledaeniad y feirws yn lleol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Yn dilyn sawl wythnos o waith cynllunio, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw y bydd Profi Torfol Cymunedol ar gael mewn chwe ardal ledled y Fwrdeistref Sirol, ochr yn ochr â lleoliadau yn ein Siroedd cyfagos, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
“Bu gostyngiad amlwg yn y cyfraddau achosion dyddiol a'r gyfradd positifrwydd 7 diwrnod a chyfraddau achosion 7 diwrnod dros yr wythnosau diwethaf. Mae'r rhaglen yma bellach yn rhan hanfodol o'n hymdrechion i nodi ac ynysu achosion heb symptomau yn y cymunedau sydd â lefelau uwch o'r haint er mwyn torri'r cadwyni trosglwyddo hynny.
“Cyn y Nadolig, cynhaliodd ardal Cwm Cynon isaf gynllun peilot profi torfol llwyddiannus a ddarparodd rywfaint o'r wybodaeth hanfodol er mwyn deall sut roedd y feirws yn ymledu yn y cymunedau lleol hynny. Gobeithio bydd y rhaglen Profi Gymunedol yma hefyd yn esgor ar ganlyniadau tebyg.
“Rydyn ni'n annog pawb dros 11 oed sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio ym mhob un o'r ardaloedd lleol sydd wedi'u targedu i fynd i gael prawf am ddim er mwyn cadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel. Mae'n bwysig cofio bod y rhaglen yma ar gyfer unigolion sydd heb symptomau COVID-19 ac sydd ddim yn hunan-ynysu ar hyn o bryd yn unig.”
Bydd y rhaglen yma'n gweithredu ar draws y lleoliadau a'r dyddiadau canlynol rhwng 9am a 7pm:
Ardal Tonypandy
Canolfan y Gymuned Maes-yr-haf, Trealaw
- Dydd Mercher 3 Mawrth - Dydd Gwener 5 Mawrth
- Dydd Gwener 12 Mawrth - Dydd Sul 14 Mawrth
Ardal y Porth
Plaza'r Porth
- Dydd Mercher 3 Mawrth - Dydd Gwener 5 Mawrth
- Dydd Gwener 12 Mawrth - Dydd Sul 14 Mawrth
Ardal Llanhari
Canolfan y Gymuned, Llanhari
- Dydd Sadwrn 6 Mawrth - Dydd Llun 8 Mawrth
- Dydd Llun 15 Mawrth - Dydd Mercher 17 Mawrth
Y Gilfach-goch ac Evanstown
Canolfan Oriau Dydd y Gilfach-goch
- Dydd Sadwrn 6 Mawrth - Dydd Llun 8 Mawrth
- Dydd Llun 15 Mawrth - Dydd Mercher 17 Mawrth
Ardal Tylorstown
Canolfan Hamdden Rhondda Fach
- Dydd Mawrth 9 Mawrth - Dydd Iau 11 Mawrth
- Dydd Iau 18 Mawrth - Dydd Sadwrn 20 Mawrth
Ardal Abercynon
Canolfan Cymuned Abercynon
- Dydd Mawrth 9 Mawrth - Dydd Iau 11 Mawrth
- Dydd Iau 18 Mawrth - Dydd Sadwrn 20 Mawrth
Wedi ei bostio ar 24/02/21