Skip to main content

Gwobr Pennaeth y Flwyddyn

Davied-Jenkins-Award

Mae pennaeth o Rondda Cynon Taf wedi derbyn y Wobr Arian yng nghategori Pennaeth y Flwyddyn y DU (Ysgolion Cynradd ac Uwchradd) yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol blynyddol Pearson, gan gydnabod ei 'ymroddiad i addysg'.

Dywedodd David Jenkins, 39, Pennaeth Gweithredol Dros Dro Ysgol Tŷ Coch, Ton-teg ac Ysgol Park Lane, Aberdâr, ei bod yn anrhydedd mawr cael cydnabyddiaeth am ei waith ac ennill y wobr Arian yng ngwobrau Pennaeth y Flwyddyn ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Yn ogystal â hynny, cafodd Mr Jenkins ei wobrwyo’n Bennaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020. Mae Mr Jenkins yn briod â dau o blant, ac mae'n awyddus i ddiolch i'r holl ddisgyblion a staff sy'n gysylltiedig â'r ddwy ysgol.

Meddai'rCynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Mae David Jenkins yn bennaeth eithriadol, ac ar ôl cael ei gydnabod yng Nghymru ar ei waith, mae bellach ganddo gydnabyddiaeth ledled y DU yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.

“Hoffwn achub ar y cyfle yma i longyfarch Mr Jenkins a diolch iddo am ei holl waith caled a'i ymroddiad. Rydyn ni mor ffodus o gael cynifer o benaethiaid ac athrawon yn Rhondda Cynon Taf sy'n cynnig arweiniad i’n disgyblion ifainc ac yn eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn.

“Mae Mr Jenkins yn gaffaeliad i'r byd addysg ac i bob un o'n staff addysgu a staff cymorth ar draws y Fwrdeistref Sirol, sydd wedi gweithio mor galed er budd eu disgyblion yn ystod y pandemig byd-eang yma.”

Mae trefnwyr Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn cyfeirio at y gwobrau fel 'Oscars' y byd addysg. Cafodd yr achlysur ei sefydlu yn 1998 ac ers hynny mae'r achlysur blynyddol wedi bod yn ddathliad o ragoriaeth mewn addysg, gan gydnabod gwaith anhygoel athrawon ledled y DU.

Gyda 15 categori o wobrau yn cwmpasu'r sectorau cynradd, uwchradd ac Addysg Bellach a phob categori ar agor i ysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae pawb yn Ysgol Tŷ Coch ac Ysgol Park Lane wrth eu boddau â llwyddiant cenedlaethol Mr Jenkins.

Meddai David Jenkins, Pennaeth y Flwyddyn: “Mae hon yn anrhydedd enfawr i mi, ond rwy’n derbyn y wobr ar ran pawb yn y ddwy ysgol sydd wedi gweithio mor galed yn ystod amgylchiadau eithriadol yn ystod y 15 mis diwethaf. Rydw i mor falch o'r hyn rydyn ni i gyd wedi'i gyflawni.

“Mae'r ddwy ysgol yn sefydliadau rhagorol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pawb sy'n astudio ac yn gweithio yno. Rydw i'n hynod falch o bawb sy'n gysylltiedig â'r ddwy ysgol.”

Cafodd holl waith caled ac ymroddiad Mr Jenkins trwy'r pandemig byd-eang eu cydnabod gan feirniaid Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson. Fe ddisgrifion nhw Mr Jenkins fel pennaeth ysbrydoledig sy'n sicrhau bod anghenion cymuned gyfan yr ysgol yn rhan annatod o bob penderfyniad.

Dywedon nhw hefyd ei fod yn uchel ei barch gan bawb sy'n gweithio gydag ef. Nodon nhw fod ei 'ymroddiad i addysg' wedi bod yn hanfodol wrth greu amgylcheddau ysgol sy'n hynod feithringar ac sy’n sicrhau bod gan bob plentyn, oedolyn ifanc ac aelod o staff fynediad at gyfleoedd anhygoel.

Mae bob amser yn rhoi lles ei staff, ei ddisgyblion a'u rhieni wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud. Mae'n rhagori mewn hybu llais ei ddisgyblion, ac mae hefyd yn cynnwys y staff yn rhan o'r gwaith o greu amgylchedd ysgol cyfeillgar ac effeithiol.

Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2021 yn dathlu'r athrawon gorau ledled y DU, sy'n cael eu henwebu gan ddisgyblion, rhieni a chydweithwyr. Bydd David Jenkins yn symud ymlaen i rownd derfynol y Wobr Aur gyffredinol, a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn achlysur arbennig yn Llundain ar 28 Tachwedd 2021.
Wedi ei bostio ar 28/07/2021