Skip to main content

Ail gynllun i osod wyneb newydd ar gylchfan Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys

Gwaun Meisgyn grid - Copy

Bydd gwaith gosod wyneb newydd ar gylchfan Gwaunmeisgyn ar Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys yn cael ei gynnal dros 3 noson, gan ddechrau nos Fercher.

Mae cynllun tebyg yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar gylchfan yr A473, Nant Dowlais gerllaw. Mae’r gwaith yma’n cael ei gynnal  dros dair noson yr wythnos yma (nos Sul, nos Lun a nos Fawrth 20 i 22 Gorffennaf).

Unwaith y bydd y cynllun yna wedi'i gwblhau, bydd y sylw'n troi at gylchfan yr A473, Gwaunmeisgyn sydd i'w gweld yn y llun. Bydd angen cau ffyrdd dros dro gyda'r nos er mwyn cynnal y gwaith yma hefyd.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 7pm a 4am ar bob un o'r 3 noson, gan ddechrau am 7pm nos Fercher, nos Iau a nos Wener (23 i 25 Gorffennaf). Felly, bydd yr holl waith wedi'i gwblhau erbyn 4am ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf.

Bydd y gylchfan yn y llun yn cau, ynghyd â'r rhannau o'r ffordd sy'n arwain yn uniongyrchol oddi wrthi – fel sydd wedi'i amlinellu ar y map canlynol.

O ran cau'r A473, cylchfan Pentre'r Eglwys, bydd llwybr amgen ar gael ar hyd cylchfan Rhiwsaeson, cylchfan yr Heol Fawr, Heol Caerdydd, Heol Cross Inn, y Stryd Fawr, Heol y Bontnewydd, y B4595 Ffordd Llantrisant, Heol Gwaunmeisgyn, Heol Tynant, Heol y Plwyf, y Coetir, Bryn y Goron a chylchfan Nant Dowlais. Mae'r llwybr yma hefyd i'w weld ar y map uchod.

Mae'r gwaith gosod wyneb newydd yn cael ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf y Priffyrdd 2025/26 y Cyngor, sydd wedi clustnodi £7.5 miliwn i gynnal a gwella ffyrdd a llwybrau troed drwy gydol y flwyddyn yma.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, ond fydd dim mynediad ar gael i gerddwyr nac i eiddo.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 22/07/2025